Mudiad iaith yn anfon llythyr yn ôl
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon ymateb Llywodraeth Cymru i'w cynigion polisi yn ôl, gan honni bod y ddogfen yn "hunan-amddiffynnol".
Roedd y mudiad wedi cynnig dros 30 o argymhellion polisi i'r llywodraeth er mwyn "cryfhau'r iaith" yn sgil canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011.
Roedd llythyr y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynnwys ymateb ei lywodraeth i'r cynigion oedd dros 18 tudalen o hyd.
Ysgrifennodd Toni Schiavone yn ôl at Mr Jones ar ran pwyllgor y mudiad a dweud mai rhestru beth oedd ei lywodraeth eisoes yn ei wneud oedd yr ymateb yn lle cynnig syniadau newydd.
'Dim llawer o ddiben'
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: "Rydan ni'n croesawu ymateb manwl iawn y llywodraeth i'n cynigion polisi...
"Os mai unig ymateb y llywodraeth i gynigion mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yw rhestru'n hunan-amddiffynnol yr hyn y maen nhw yn ei wneud ar hyn o bryd, does dim llawer o ddiben i'w Chynhadledd Fawr."
Cyfeirio yr oedd at gynllun y Prif Weinidog i roi cyfle i bobl "ddweud eu dweud" ynglŷn â beth ddylai gael ei wneud yn sgil yr "heriau anferthol" mae'r iaith yn eu hwynebu.
'Cynlluniau newydd'
Dywedodd Mr Farrar: "Rydan ni'n dychwelyd yr ymateb at y llywodraeth felly - a gofyn iddyn nhw am eu cynlluniau newydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
"Mae angen iddyn nhw ddadansoddi opsiynau gweithredu'n ychwanegol neu mewn modd gwahanol.
"Fydd dim pwynt i neb fynd i gynnig syniadau newydd os na fydd meddwl agored gan y llywodraeth ac os bydd yn ceisio amddiffyn ei hun yn unig."
Yn ymateb i honiadau'r gymdeithas, dywedodd llefarydd ar rhan Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith ac wedi ymateb yn drylwyr i'w hargymhellion.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn ffynnu.
"Rydyn ni'n agored i syniadau ar sut i wneud hyn, a dyna pam yr ydyn ni ar hyn o bryd yn cynnal trafodaeth genedlaethol ar yr iaith: Iaith Fyw: y Gynhadledd Fawr, sy'n rhoi cyfle i bawb sydd â diddordeb yn y Gymraeg i ddweud eu dweud am y ffordd orau o sicrhau ei dyfodol.
"Fe fydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu o'r sgwrs genedlaethol hon yn cael ei defnyddio i lywio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol yr iaith ac i ddatblygu polisïau a fydd yn helpu'r iaith i ffynnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012