Cymdeithas yn cwyno am broses ymgynghori
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu proses ymgynghori'r llywodraeth ar ddyfodol yr iaith Gymraeg, y Gynhadledd Fawr.
Cafodd y drafodaeth ei lansio gan y Prif Weinidog Carwyn Jones yn ystod Eisteddfod yr Urdd.
Ei hamcan yw gwrando ar farn gwahanol fudiadau ac unigolion ar sut mae sicrhau dyfodol llewyrchus i'r iaith.
Cwynion
Ond mae'r mudiad iaith wedi derbyn cwynion am y broses, gan gynnwys un nad yw cyfarfodydd lleol yn agored i'r cyhoedd.
Ar Taro'r Post Radio Cymru dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Robin Farrar: "Rhaid i mi anghytuno bod y broses mor agored i bawb ac sy'n bosib oherwydd os ydach chi'n rhoi'ch hyn yn sgidia pobl ar lawr gwlad sydd eisiau cymryd rhan yn y drafodaeth hon ... mae yna broblemau mawr.
"Dydi lleoliadau'r cyfarfodydd heb gael eu cyhoeddi. Dydi caethiwo'r drafodaeth i grwpiau caeëdig fel hyn yn ddim yn mynd i helpu.
"Mae'n codi cwestiwn - ydi Carwyn Jones o ddifri am y Gymraeg? Ydi o o ddifri am y Gynhadledd Fawr 'ta ydi o jest isho cynnal cynhadledd fach ar gyfer pob sydd efo lleisiau'n barod?"
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod nifer o ffyrdd gwahanol i gyfrannu at y sgwrs.
'Rhan o'r drafodaeth'
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Mae hwn yn gyfle pwysig iawn i unrhyw un sydd â'r Gymraeg yn agos at ei galon i ddweud ei ddweud a dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch dyfodol yr iaith.
"Dyma'r tro cyntaf i ni gynnal sgwrs ar-lein am y mater hwn ac rwy'n gobeithio y bydd yn annog pawb o bob cefndir a gallu yn Gymraeg i gymryd rhan, yn enwedig pobl ifanc sydd, fel rydyn ni'n gwybod, yn allweddol i ddyfodol yr iaith.
"Pan gyhoeddwyd ffigurau'r Cyfrifiad ac y gwelwyd natur fregus yr iaith doedd pobl ddim yn oedi i fynegi'u barn am y camau y dylem ni eu cymryd i hyrwyddo'r iaith yn well. Rwy'n galw ar y bobl hynny ac unrhyw un arall y mae'r iaith yn bwysig iddyn nhw i fynd ar-lein a dweud eu dweud."
Mae modd cyfrannu at y sgwrs ar-lein drwy gyfrwng y wefan cymru.gov.uk/iaithfyw, dolen allanol neu drwy ddefnyddio gwefannau Twitter (#iaithfyw) neu Facebook (facebook.com/Cymraeg).
Mae'r llywodraeth hefyd yn derbyn e-byst. Os am gyfrannu, mae modd anfon neges at at iaithfyw@iaith.eu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013