Dinas diwylliant: Abertawe'n ffefryn

  • Cyhoeddwyd
Bae Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cais wedi ei wneud o dan enw Bae Abertawe

Mae Abertawe wedi ei dewis ar y rhestr fer cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU.

Y rhai eraill ar y rhestr yw Dundee, Hull a Chaerlyr a'r ddinas Gymreig yw'r ffefryn i ennill.

Mae'r cwmni betio William Hill yn cynnig 4/1 ar Abertawe i fod yn fuddugol.

Fe wnaeth Abertawe, Port Talbor a Sir Gâr wneud cais ar y cyd ar gyfer y fraint ym mis Mawrth.

Bydd yr enillydd yn cynnal y digwyddiadau sy'n ymwneud a'r wobr yn 2017.

Lerpwl

Cafodd y gystadleuaeth ei chreu yn dilyn llwyddiant cynnal Dinas Ddiwylliant Ewrop ym Mhrydain yn 2008 pan mai Lerpwl oedd y ddinas fuddugol.

Fe wnaeth ymchwil ddangos bod delwedd y ddinas wedi gwella wedi 2008 - a hynny ar ben yr £800m gafodd ei godi yn sgil y digwyddiad yn ôl Cyngor Lerpwl.

Mae'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal y flwyddyn hon, a Londonderry yng ngogledd Iwerddon yw'r ddinas sydd ei dewis.

Yn ôl yr economegydd Brian Morgan o Athrofa Prifysgol Cymru, mae hyn yn "gyfle anferth" i Londonderry.

Ond mae'n rhybuddio hefyd bod y ddinas, "wedi bod drwy broblemau llawer mwy difrifol na Lerpwl".

Llawer i'w gynnig

Mae Meryl Gravell sy'n aelod o fwrdd gweithredol Sir Gaerfyrddin dros adfywio yn optimistaidd ynglŷn â chais Abertawe.

"Byddai'n newyddion hyfryd i'r ardal os byddem ni'n llwyddiannus," meddai.

"Y gorllewin yw'r gorau pan mae'n dod ar ddiwylliant, ac mae Sir Gâr yn cynnig ardaloedd o harddwch naturiol rhagorol ac amryw o atyniadau diwylliannol gan gynnwys theatrau hanesyddol.

"Ry'n ni'n falch o'r hyn sydd gennym i'w gynnig yma'n Sir Gâr a byddem ni'n falch o groesawu ymwelwyr newydd."

'Siawns dda'

Mae'r ceisiadau wedi cael eu hystyried gan banel annibynnol sydd wedi ei gadeirio gan Phil Redmond, y dyn y tu ôl i gyfresi teledu poblogaidd fel Grange Hill, Brookside a Hollyoaks.

Pan gafodd cais Abertawe ei gyflwyno, dywedodd Peter Stead o Abertawe fod gan y ddinas "siawns dda".

Roedd Mr Stead, sy'n hanesydd ac oedd yn arfer darlithio ym Mhrifysgol Abertawe, yn aelod o'r panel wnaeth ddewis Lerpwl fel dinas ddiwylliant.

"Nid diwylliant yn yr ystyr elitaidd yw hwn," meddai.

"Dyma adfywiad dinasyddion Abertawe."

Dywedodd bod yr ardal wedi adeiladu'r cais dros nifer o flynyddoedd a bod llwyddiant Clwb Pêl-droed Abertawe'n golygu bod pobl yn siarad am y ddinas ymhob cwr o'r byd.

Bydd y pedair dinas yn cyflwyno ei cais olaf erbyn diwedd Medi. Bydd y panel yn cyfarfod eto wedyn i ddewis enillydd a bydd y cyhoeddiad terfynol yn cael ei wneud ym mis Tachwedd.