Ail gampws Prifysgol Abertawe: Llofnodi cytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi cytundeb datblygu gyda St. Modwen i adeiladu rhan gyntaf ei hail gampws.
Yn dilyn proses gaffael penodwyd St Modwen a'i bartner adeiladu dewisol, Vinci.
Fe fydd y gwaith yn dechrau ym mis Ebrill ar y campws ar safle bron 70 o erwau ryw ddwy filltir a hanner o ganol Abertawe.
Dywedodd Prifysgol Abertawe y byddai 5,000 o swyddi parhaol yn cael eu creu wedi i'r ail gampws gael ei godi.
Bydd 10,000 yn cael eu cyflogi, meddai, wrth i'r campws ger Rhodfa Fabian gael ei godi ac mae disgwyl iddo gael ei orffen erbyn Medi 2015.
Bydd lle i 4,000 o fyfyrwyr fyw yno.
'Byd o wahaniaeth'
Dywedodd Bill Oliver, Prif Weithredwr St. Modwen: ''Bydd y campws newydd yn gwneud byd o wahaniaeth i'r rhan yma o dde Cymru ac yn hwb mawr i'r economi leol a chenedlaethol yng Nghymru.
"Ar y cyd â'r gwaith o adfywio Coed Darcy, Bae Baglan a Glan Llyn yng Nghasnewydd, bydd y campws yn chwarae rhan fawr yn ein hymgais i weddnewid de Cymru.
''Dros y blynyddoedd nesaf, edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Brifysgol ar y cynllun pwysig hwn yn ogystal ag ymwneud â'r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol.''
'Newyddion gwych'
Dywedodd BP, cyn berchennog y safle: "Mae'r cytundeb hwn rhwng Prifysgol Abertawe a St Modwen i greu Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi yn newyddion gwych o ran adfywio cynaliadwy rhanbarth Bae Abertawe.
"Edrychwn ymlaen at weld genedigaeth campws hardd dros y misoedd nesaf, campws sydd wedi'i ddylunio gan rai o benseiri gorau'r byd. Ac wedyn, edrychwn ymlaen at weld manteision swyddi a thwf economaidd i'r gymuned leol.
Bydd y campws newydd ar gyfer Gwyddoniaeth ac Arloesedd yn gartref i Goleg Peirianneg ac Ysgol Busnes ac Economeg y brifysgol a hefyd i wahanol fusnesau rhyngwladol, Prydeinig a lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2012
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2012