Cynghorau'n methu â chasglu £15.1m o ddyledion treth

  • Cyhoeddwyd
ArianFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Fe roddodd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru y gorau i geisio casglu gwerth £8.5 miliwn o ardrethi busnes a £6.6 miliwn o dreth gyngor yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Roedd hynny oherwydd dileu dros 32,000 o ddyledion unigol treth gyngor a thros 3,000 o ddyledion unigol ardrethi busnes.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r "rhan helaeth o'r symiau sy'n ddyledus yn cael eu casglu'n brydlon", ond yn ôl Cynghrair y Trethdalwyr "ni all awdurdodau lleol fforddio i beidio â chasglu cymaint o dreth".

Mae'r dyledion treth gyngor a gafodd eu dileu yn amrywio o £1.2 miliwn yng Nghaerdydd i £43,000 yn Sir Benfro.

Daeth y wybodaeth wedi cais BBC Newyddion Ar-lein o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

£2 biliwn

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyllid ac adnoddau: "Pob blwyddyn mae cynghorau Cymru yn casglu bron £2 biliwn mewn treth gyngor ac ardrethi busnes.

"Mae cynghorau Cymru'n casglu, ar gyfartaledd, tua 97% o'r ddwy dreth hyn o fewn y flwyddyn y maent yn ddyledus.

"Dros gyfnod y mae mwy na 98.5% o'r holl ddyledion yn cael eu casglu".

Yn ôl Cyngor Abertawe, y prif resymau dros ddileu dyledion yw methdaliad dyledwyr, methu olrhain dyledwyr, rhwymedigaethau sy'n destun dadl a sefyllfa lle nid yw'n gost effeithiol mynd ar drywydd dyledion gwerth isel iawn.

98.5%

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffigwr o £1.2m a ddiystyrwyd mewn treth gyngor a £2.1m o ardrethi busnes yn 2012/13 yn llai na 1.5% o'r arian a filiwyd yn ystod y flwyddyn honno.

"Fel prifddinas Cymru rydym yn casglu dros 98.5% o swm y dreth gyngor ac ardrethi busnes a gaiff eu bilio yn y ddinas.

"Cyn diystyru taliad mae nifer o'r dyledion hyn yn destun camau cyfreithiol am ddiffyg talu ac mae beilïod yn cael eu defnyddio'n helaeth i geisio casglu trethi.

"Diystyru dyled yw'r dewis olaf i'r cyngor bob tro, pan fo pob opsiwn arall wedi'i ystyried gan gynnwys defnyddio asiantau canfod a chamau methdalu."

Mae ardrethi busnes hefyd yn cael eu galw'n ardrethi annomestig. Mae'r holl ardrethi busnes yn cael eu casglu a'u talu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Maent wedyn yn cael eu rhoi'n ôl i awdurdodau lleol fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.

'Cadw trethi yn isel'

Yn ôl Robert Oxley ar ran Cynghrair y Trethdalwyr: "Dylai cynghorau ei wneud yn haws i'r rhai sy'n ei chael yn anodd trwy gadw trethi yn isel tra'n mynd ar ôl y rheiny sy'n fwriadol yn osgoi talu".

Ym mlwyddyn ariannol 2011/12 rhoddwyd y gorau i geisio casglu gwerth £9.6 miliwn o ardrethi busnes a £5.4 miliwn o dreth gyngor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol