Arbrawf gwella signal ffôn mewn pentref yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd
Mae pentref yng Nghaerfyrddin wedi ei ddewis i gymryd rhan mewn arbrawf i geisio gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig.
Mae Pentywyn yn un o 12 o lefydd ar draws Prydain fydd yn treialu'r dechnoleg gan Vodafone.
Dywedodd y cwmni fod 170 o ardaloedd gyda signal gwan neu dim o gwbl wedi ceisio bod yn rhan o'r cynllun a'r pentref yng Nghaerfyrddin yw'r unig leoliad yng Nghymru sydd wedi ei ddewis.
Mae'r cwmni wedi rhoi amryw o declynnau i gyfnerthu signal 3G yn y pentref gan gynnwys y swyddfa bost a thy bwyta.
Unedau 'femto' fydd yn cael eu defnyddio sydd yn cael eu rhoi ar ochrau adeiladau ac yn rhoi signal i gwsmeriaid Vodafone.
'Dim signal'
Dywed un o'r trigolion sydd yn byw yn y pentref bod bron "dim signal o gwbl" yno a'i bod hi'n cymryd oriau i negeseuon testun gyrraedd.
Dywedodd Martyn Davies, sydd yn gweithio fel gyrrwr ac mewn bar ym Mhentywyn: "Dw i gyda Orange ac mae fy mhartner gyda Vodafone. Dydyn ni byth yn cael signal- oni bai eich bod chi yn hofran 30 troedfedd yn yr awyr.
"Ges i linell ffon yn y tŷ ychydig wythnosau nol achos mod i fethu cael signal ar y ffon symudol yn y tŷ o gwbl. Fe allwch chi fod yn disgwyl am oriau am negeseuon testun a does dim wi-fi yma. Dw i wedi derbyn negeseuon yn gofyn i fi fod yn y gwaith erbyn 10am a dw i ddim wedi eu derbyn nhw tan 5pm."
Mae'n teimlo y byddai signal gwell yn cael eu croesawu gan bobl sydd yn byw yn y pentref a gyda thwristiaid.
Mae Gwilym Dawe, sydd yn gweithio yn Amgueddfa Cyflymder Pentywyn yn dweud bod medru defnyddio ffon symudol yn bwysig mewn sefyllfa o argyfwng:
"Y llynedd roedd gan rywun broblem gyda'i gerbocs ac mi wnaethon nhw drio ffonio i gael help ond doedden nhw'n methu cael signal. Mi ddaethon nhw yma yn y diwedd i ddefnyddio ffon arferol.
"Mae lot o bobl yn dod yma i gerdded ar y clogwyni a pe byddai yna ddamwain yn digwydd a'u bod angen help mi fydden nhw mewn peryg go iawn."