Golygydd Rhaglenni newydd Radio Cymru yn addo gwrando
- Cyhoeddwyd
Mae Golygydd Rhaglenni newydd Radio Cymru wedi dweud y bydd yn gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am yr orsaf cyn cyflwyno newidiadau.
Wrth siarad ar y Post Cyntaf ar ei diwrnod cyntaf yn y swydd, cyfeiriodd Betsan Powys at y sgwrs sy'n cael ei chynnal er mwyn cael clywed barn pobl am y gwasanaeth.
"Mae'n weddol amlwg am wn i mai'r peth cyntaf y byddai unrhyw olygydd newydd yn ei wneud yw gwrando, a dal i holi, a dal i wrando, oherwydd does dim llawer o bwynt cynnal sgwrs, dim llawer o bwynt mynd i'r afael ag ymchwil fel y'n ni wedi neud dros y misoedd diwethaf, heblaw bod rhywun wedyn yn gwrando, ac yn dadansoddi ac yn penderfynu wedyn ar gyfeiriad clir.
Fydd yna ddim newid yn syth bin o ran cyflwynwyr a rhaglenni:
"Dw i ddim yn meddwl bod ni yn agos ar fod yn barod at gael sgwrs fel 'na eto. Yr hyn sydd yn rhaid deall dw i'n credu ydy at bwy ry' ni yn trio apelio pryd.
"Pwy yw'r gynulleidfa, beth mae'r gynulleidfa yn ei fwynhau, am beth maen nhw yn siarad, beth sydd yn bwysig iddyn nhw, beth sydd yn cyfri iddyn nhw?
"Ac o ddeall hynny, wedyn allwn ni edrych ar ba strwythur, pwy sydd yn mynd i apelio ac yn y blaen.
"Ond mae 'na waith caib a rhaw enfawr i'w wneud yn fy marn i cyn ein bod ni yn cyrraedd y pwynt hwnnw."
'Y bobl biau'r cyfrwng'
Iddi hi mae'r hen slogan, 'Y bobl biau'r cyfrwng' dal yn wir heddiw ac mi fydd hynny yn 'garreg sylfaen gwbl glir i Radio Cymru.'
Dyw'r orsaf ddim yn nwylo un garfan yn fwy nac unrhyw garfan arall meddai, a bydd angen apelio at ystod o bobl ar wahanol adegau o'r dydd: "Dw i'n dod 'nôl at y gair clir eto o ddweud olreit fan hyn ry' ni yn apelio yn ddidostur at y bobl sydd eisiau hyn.
"Fan hyn ry' ni yn apelio yr un mor ddidostur at y bobl sydd eisiau rhywbeth hollol wahanol. Fyddwch chi ddim yn mwynhau y cwbl a waeth i ni dderbyn hynny o'r dechrau."
Mae'n dweud bod y gerddoriaeth sydd yn cael ei chwarae ar yr orsaf yn bwnc y mae gan bobl farn gref amdano a bod angen bod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae Radio Cymru yn gynnig: "Mae yna nifer eraill sydd yn dweud drychwch y math o gerddoriaeth chi'n chwarae, ry' ni ddim yn ei adnabod e, dy' ni ddim yn ei ddeall e, dy' ni ddim yn gwybod pryd i ddisgwyl clywed pa fath o gerddoriaeth."
Tra bod rhai yn dweud bod angen caneuon Saesneg ar yr orsaf mae eraill yn anghytuno yn chwyrn ac mae'n cydnabod na fydd modd plesio pawb.
Dywed hefyd nad cadw'r gwrandawyr presennol yn hapus yw'r unig her: "Rhan enfawr o'r gwaith fydd apelio at y rheini nad sydd ar hyn o bryd â lot o ots beth sydd yn digwydd i Radio Cymru. Mae eisiau eu cyrraedd nhw hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013