Sgwrs genedlaethol am BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Radio Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Sgwrs Radio Cymru yn para 2-3 mis

Mae BBC Cymru Wales yn gwahodd gwrandawyr radio led led Cymru i gymryd rhan mewn 'Sgwrs' genedlaethol am BBC Radio Cymru sy'n cyd fynd â'r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud mewn araith gan Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, yn yr Wŷl Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe ddydd Iau.

Dywedodd Mr Talfan Davies fod gwasanaethau radio yn yr iaith Gymraeg yn wynebu cyfres o heriau na welwyd mo'u tebyg o'r blaen o ganlyniad i newidiadau cymdeithasol ac ieithyddol.

Dywedodd y byddai'r prosiect yn helpu sicrhau y byddai Radio Cymru yn parhau'n wasanaeth llwyddiannus, uchelgeisiol a bywiog am flynyddoedd i ddod.

Ystod eang o bobl

Bydd Sgwrs Radio Cymru yn gwahodd gwrandawyr i rannu eu barn ar bob agwedd o'r orsaf.

Dywedodd Mr Talfan Davies y byddai BBC Cymru yn ystod y misoedd nesaf yn gofyn am farn ystod eang o bobl er mwyn darganfod beth mae cynulleidfaoedd eisiau ac yn disgwyl gan Radio Cymru.

Dywedodd y byddai BBC Cymru yn gofyn am farn sefydliadau ac unigolion sy'n wrandawyr, gan gynnwys y rhai hynny sydd ddim yn gwrando ar yr orsaf ar hyn o bryd.

Yn ei araith dywedodd Mr Talfan Davies: "Ers dechrau'r flwyddyn, ry'n ni wedi bod yn edrych yn ofalus ar ganlyniadau'r cyfrifiad ac ry'n ni hefyd wedi comisiynu ein hymchwil ein hunain i fynd at wraidd y newid cymdeithasol yma, ac i feddwl o ddifrif sut y dylai lywio cyfeiriad ein gwasanaeth.

"Mae mwy o waith i'w wneud, mwy o sgyrsiau i'w cael, mwy o ymchwil i bori trwyddo. Ond ry'n ni'n bwrw ati ac mae'r prif sialensau yn glir yn barod.

"Gynta oll, ry'n ni am ymestyn ac ehangu apêl Radio Cymru - a chryfhau ei rôl fel rhan anhepgor o'r bywyd cenedlaethol.

Os yw Radio Cymru am ffynnu - mae'n rhaid iddi estyn allan i wasanaethu'r gynulleidfa Gymraeg ehanga posib - gan gynnwys y rhai sy'n llai hyderus gyda'r iaith - ac i gofleidio eu bywydau a'u diddordebau yn llawn.

"Ry'n ni'n mynd i wrando'n astud ar yr atebion wrth i ni lunio ein cynlluniau ar gyfer yr orsaf.

A byddwn yn llunio'n hymateb yn ofalus i sicrhau bod gan Radio Cymru le hyderus a bywiog yn ein cyfryngau cenedlaethol am flynyddoedd i ddod."

Mewn araith gyda chwmpas eang am ddarlledu yng Nghymru dywedodd Mr Talfan Davies ei fod hefyd yn awyddus i'r darlledwr feddwl yn galetach am sut y gallai holl wasanaethau BBC Cymru helpu i bontio a chysylltu gwahanol diwylliannau a ieithoedd Cymru.

"Ry'n ni wedi datblygu tueddiad i feddwl yn eitha anhyblyg ynglŷn â gwasanaethau Cymraeg a Saesneg. A dwi'n credu bod rhaid i ni dreulio mwy o amser yn dod o hyd i ffyrdd all gysylltu gwahanol gynulleidfaoedd â diwylliannau, safbwyntiau a phrofiadau na fydde nhw'n dod ar eu traws fel arfer.

"Ar BBC One dwi eisiau i ni feddwl yn greadigol ynglŷn â sut ry'n ni'n caniatáu i leisiau a phrofiadau Cymraeg gael eu clywed a'u profi ychydig yn fwy. Mae'n afreal braidd nad yw'r iaith bron byth yn cael ei chlywed ar hoff sianel deledu'r genedl."

Sut i gyfrannu at y Sgwrs

Bydd Sgwrs Radio Cymru yn para 2-3 mis, ac yn ystod y cyfnod yna bydd BBC Cymru yn casglu'r holl ymatebion ac yn eu hystyried ochr yn ochr â'r ymchwil sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd. Y nod yw amlinellu'r cynlluniau am y dyfodol i Radio Cymru yn yr Hydref.

Mae gwrandawyr yn gallu lleisio eu barn mewn nifer o ffyrdd.

  • Drwy e-bostio sgwrsradiocymru@bbc.co.uk

  • Drwy ffonio llinell arbennig Sgwrs Radio Cymru ar 03703 33 16 36

  • Drwy ysgrifennu at Sgwrs Radio Cymru, Ystafell 3020, BBC Cymru Wales, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ.

Mae BBC Cymru wedi awgrymu pedwar cwestiwn y gallai cael eu hystyried mewn ymatebion, ond mae croeso i bobl rhoi eu barn ar unrhyw agwedd o'r gwasanaeth.

Y pedwar cwestiwn yw:

-A yw BBC Radio Cymru'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng ei rhaglenni newyddion ac adloniant? Os na, beth ddylid ei newid?

-A yw cerddoriaeth Radio Cymru yn taro'r cywair iawn gyda chi a'ch teulu? Os na, beth hoffech chi glywed?

-Gan edrych i'r dyfodol, a ydych chi'n cytuno y dylai Radio Cymru ehangu ei apêl, gan gynnwys y rheiny sy'n llai hyderus yn y Gymraeg?

-Os ydych chi'n cytuno, sut dylai Radio Cymru newid neu addasu ei rhaglenni i wneud i'r cynulleidfaoedd newydd hyn deimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod nhw'n cael eu cynnwys?

Hefyd gan y BBC