Angen gweithredu rwan dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen gweld newidiadau rwan er mwyn gwarchod y Gymraeg. Dyna oedd y farn yn gyffredinol gan fudiadau a grwpiau pwyso sydd yn ymgyrchu dros yr iaith yn y Gynhadledd fawr oedd yn digwydd yn Aberystwyth ddydd Iau.
Yn ystod y diwrnod roedd amryw yn dweud bod hi'n iawn cynnal trafodaeth ond y dylai camau pendant gael eu gweithredu er mwyn gwarchod y Gymraeg.
Yn ol Meri Huws, y Comisiynydd Iaith mae'n bwysig nad yw'r momentwm yn dod i ben ar ol y gynhadledd: "Mae'n rhaid i ni weld cynnydd nawr. I ni yn adnabod lle mae angen i ni roi'r sylw. I ni yn deall rhywfaint o beth sydd angen gwneud ond mae eisiau canolbwyntio ar hynny nawr yn ystod y cyfnod wedi'r gynhadledd."
"Y peth gwaethaf alle ddigwydd nawr yw bod ni yn cael cyfnod wedi'r gynhadledd sydd yn dawel. Mae yna frwdfrydedd yma, mae'n rhaid i ni symud ymlaen."
Cytuno bod angen camau pendant oedd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Robin Farrar hefyd ond roedd yn bositif: "Mae yna lygedyn o obaith heddiw yng ngeiriau'r Prif Weinidog fod o yn cymryd cyfrifoldeb. Gewn ni weld sut mae o yn delio efo'r cyfrifoldeb yna."
"Mae angen iddo weithredu ar frys mewn gwirionedd. Does dim byd yn bod efo cael trafodaeth. Mae yna bethau eisiau eu trafod ond mae angen gweithredoedd yn ganlyniad i'r drafodaeth honno."
Barn y bobl
Bwriad y diwrnod, oedd wedi ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, oedd clywed barn a syniadau gan bobl ynglyn a sut i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu a hynny yn dilyn ffigyrau diwethaf y Cyfrifiad.
Roedd y ffigyrau hynny yn dangos bod yna gwymp wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
Mae tua 150 o fudiadau wedi bod yn cymryd rhan yn y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r cyhoedd wedi gallu cyfranu trwy wylio'r areithiau ar-lein ac ymuno yn y trafodaethau.
Dim siop siarad
Tra bod rhai yn pryderu mae siop siarad yw diwrnod fel hwn, wfftio hynny wnaeth Carwyn Jones, sydd erbyn hyn gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg: "Tase dim byd yn digwydd siop siarad fydde hi- mae hwnna yn iawn. Ond i ni moen sicrhau bod hwn yn ddechreuad o broses."
Fe ddywedodd wrth annerch y Gynhadledd bod yna her yn wynebu'r iaith ac nad oedd gan y llywodraeth 'fonopoli ar syniadau' a'i fod yn awyddus i glywed syniadau pobl ynglŷn â sut i roi hyder i bobl siarad Cymraeg.
TAN 20
Yn y gynhadledd cafodd amryw o bynciau eu trafod gan gynnwys addysg, yr economi, mewnlifiad ac is-adeiledd. Dywedodd Meri Huws y dylai'r Gymraeg gael ei hystyried mewn cysylltiad â phob ardal polisi.
Pwnc arall a drafodwyd oedd Tan 20 sef nodyn cyngor technegol. Nodyn yw hwn sydd yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio am effaith datblygiadau tai newydd ar y Gymraeg ond mae nifer yn teimlo nad yw'n ddigon cryf. Mi gyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai yn cyhoeddi'r nodyn wedi ei ddiwygio yn yr hydref.
Ond pan ofynwyd iddo a fyddai hen geisiadau cynllunio yn cael eu hail ystyried yn dilyn y nodyn newydd ni chafwyd ateb clir.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2013