Rhybudd fod 'cleifion mewn perygl' mewn uned iechyd meddwl
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd wedi rhybuddio bod cleifion uned iechyd meddwl mewn perygl am fod rheolwyr yn "rhuthro i gyflwyno newidiadau".
Eisoes mae'r pedwar, sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cyhuddo rheolwyr o "golli cysylltiad â'r hyn oedd yn digwydd" wrth i'r sefyllfa feddygol "ddirywio'n gyflym".
Mewn cyfres o lythyrau i Brif Weithredwr GIG Cymru maen nhw wedi dweud eu bod yn wynebu'r un problemau rheoli ag y cyfeiriwyd atyn nhw mewn adroddiad damniol yr wythnos ddiwetha'.
Yn y cyfamser, mae deiseb ag arni enwau 17 o gleifion yn Ysbyty Gwynedd, wedi ei hanfon i Lywodraeth Cymru ac mae llythyr arall gan un o ymgynghorwyr yr ysbyty yn cyhuddo'r rheolwyr o "fwlio".
Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn ceisio gwella gwasanaethau a safonau yn Uned Hergest.
'Difrifol'
Mae'r pryderon yn sgil cynlluniau i ad-drefnu'r uned, ble mae tair ward.
Dywedodd y llythyr a lofnodwyd gan yr ymgynghorwyr David Healy, Sumit Chandran, Tony Roberts ac Qasim Ijaz: "Mae'n debygol iawn y bydd digwyddiadau difrifol yn fuan.
"Rydym wedi dweud ein bod yn poeni ond heb gael ymateb.
"Y broblem yw bod cynigion i symud y swyddfa a newid trefn mynd o amgylch wardiau wedi eu llunio gan staff heb brofiad clinigol uniongyrchol ym maes iechyd meddwl na phrofiad o Uned Hergest."
Mae llythyr un o'r pedwar ymgynghorydd, Yr Athro David Healey, at Brif Weithredwr GIG Cymru wedi cyhuddo'r rheolwyr o "aflonyddu" a "bwlio".
'Dull rheoli'
"Dwi'n poeni am fod agwedd ddidrugaredd yn rhan o'r dulliau rheoli," meddai.
"Tra'n derbyn bod hawl ganddyn nhw i symud rhywun o'i swydd, mae problemau mawr yn datblygu os yw'r agwedd yn troi'n ddull rheoli.
"Mae staff uwch nyrsio wedi gorfod ymdopi â'r bygythiad ers bron i ddwy flynedd."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi amddiffyn eu cynlluniau ar gyfer Uned Hergest, fel yr esbonia llefarydd ar eu rhan:
"Gofal a diogelwch ein cleifion yw'r flaenoriaeth gyntaf.
"Ynghynt eleni dechreuodd rhaglen wella yn yr uned yn sgil pryderon am ofal cleifion.
'Ar unwaith'
"Mae trefniadau eiriolaeth mewn lle er mwyn cefnogi cleifion. Yn ogystal mae adroddiadau ffurfiol am unrhyw gynnydd.
"Mae'r uned yn rhan o raglen wella ansawdd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac yn ceisio gwella gwasanaethau i gleifion oherwydd Cynllun Wardiau Serennog.
"Oherwydd honiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â gofal claf cymerwyd camau ar unwaith i amddiffyn cleifion yn unol â chanllawiau rheoleiddio.
"Does dim modd rhoi sylw pellach am y digwyddiad oherwydd cyfrinachedd staff a chleifion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2013