Eisteddfod Llangollen 2013 yn dathlu sawl pen-blwydd
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu nifer o ben-blwyddi eleni.
Mae hi'n 60 mlynedd ers i'r Frenhines ymweld â'r eisteddfod, yn fuan ar ôl iddi gael ei choroni.
Yn yr un flwyddyn ymwelodd Dylan Thomas â Llangollen er mwyn darlledu o'r eisteddfod ar gyfer y BBC.
Yn ogystal bydd un o gyngherddau'r eisteddfod yn dathlu 200 mlynedd o Giuseppe Verdi gyda pherfformiad o'i offeren dros y meirw (Requiem).
Bydd y ferch saith oed, a gyflwynodd dusw o flodau i'r Frenhines newydd yn 1953, yn westai arbennig yn y digwyddiad eleni.
Mae Nêst Adams bellach wedi ymddeol ac wedi dychwelyd i fyw yn Llangollen ac mae hi'n cofio'r digwyddiad yn glir.
Ymarfer cyrtsi
"Roedd yn rhaid imi ymarfer gwneud cyrtsi a chymryd chwe cham yn ôl oherwydd doeddech chi ddim yn cael troi eich cefn ar y Frenhines," meddai Ms Adams.
"Bu fy mam yn fy hyfforddi gan ofalu fy mod yn ymarfer gwneud cyrtsi yn ofalus.
"Doeddwn i ddim yn nerfus oherwydd roeddem ni wedi hen arfer cymryd rhan mewn digwyddiadau a mynd ar y llwyfan i berfformio yn eisteddfodau'r capel.
"Mae'r ffrog oeddwn i'n ei gwisgo, y ffotograffau a'r toriadau papur newydd yn dal gen i."
Rhai eraill fydd yn dychwelyd i'r eisteddfod eleni fydd aelodau o gôr plant o Obernkirchen yn Yr Almaen.
Daeth y côr yn enwog am ganu cân o'r enw The Happy Wanderer wedi i'r BBC ddarlledu eu perfformiad yn Llangollen.
Mae Eisteddfod Llangollen 2013 yn dechrau ar 9 Gorffennaf ac yn gorffen ar 14 Gorffennaf.
Bydd gorymdaith draddodiadol y cystadleuwyr ar hyd strydoedd Llangollen ar y dydd Mawrth, o 4.30yh ymlaen.
Ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn y cyngherddau eleni bydd Jools Holland a'i Gerddorfa Rhythm and Blues, côr Only Men Aloud a'r unawdydd offer taro Evelyn Glennie.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013