Mark Drakeford i gyhoeddi newid i'r Gwasanaeth Ambiwlans

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi methu cwrdd â thargedau amser ymateb am 12 mis yn olynol

Mae disgwyl i'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi newidiadau sylweddol i'r Gwasanaeth Ambiwlans yn ddiweddarach.

Dyw'r gwasanaeth heb lwyddo i gyrraedd targedau amser ymateb am 12 mis yn olynol ac mae pryder bod aelodau staff yn digalonni.

Wedi adolygiad cafodd adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ebrill, a oedd yn argymell newid y ffordd mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg, ei reoli a'i gyllido.

Roedd adolygiadau blaenorol yn 2006, 2007 a 2008 hefyd wedyn codi pryderon difrifol ynglŷn â pherfformiad y gwasanaeth.

Mae'r ffigyrau ymateb ar gyfer mis Mai yn dangos fod ambiwlansys wedi ymateb i 62.5% o alwadau brys o fewn wyth munud - oedd yn îs na'r targed o 65% ond yn well na pherfformiad mis Mawrth, pan oedd yn 57.2%.

'Digalon'

Dywedodd y gwrthbleidiau fod y ffigyrau yn rhai "digalon" ac fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod bod angen gwella'r perfformiad.

Fe wnaeth yr adolygiad a gafodd ei gynnal gan yr Athro Siobhan McLelland alw am newidiadau mawr, gan awgrymu tri model ar gyfer sut gallai'r gwasanaeth gael ei redeg yn y dyfodol:

  • Bwrdd iechyd ar wahân sy'n cael ei gyllido'n uniongyrchol gan y llywodraeth;

  • Byrddau iechyd lleol yn comisiynu gwasanaethau'r ambiwlans gyda phrosesau ac amcanion clir;

  • Byrddau iechyd lleol yn cymryd cyfrifoldeb am reoli gwasanaethau ambiwlans yn eu hardal.

Byddai'r trydydd dewis yn golygu y byddai'r gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol yn cael ei ddirwyn i ben.

Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell rhoi mwy o hyfforddiant i barafeddygon i'w cynorthwyo i allu gwneud penderfyniadau.

Yn ogystal, dywedodd yr adolygiad bod methu targedau'n cael effaith negyddol ar ysbryd y gweithlu ac y dylen nhw efallai gael eu newid.

Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei sefydlu yn 1999 ac mae wedi wynebu llawer o broblemau ers hynny.

Yn 2002 roedd rhaid iddynt ddychwelyd gwrth £40,000 o radios oherwydd eu bod yn gweithredu ar yr amledd anghywir.