Ambiwlansys: Methu targedau am y 12fed mis

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i 62.5% o alwadau Categori A o fewn wyth munud yn ystod mis Mai - targed Llywodraeth Cymru yw 65%

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu targedau am ymateb i'r galwadau brys pwysicaf am y deuddegfed mis yn olynol.

Daeth 34,840 o alwadau 999 i'r gwasanaeth yn ystod mis Mai - mae hynny 0.1% yn is nag ym mis Ebrill, ond 0.5% yn uwch nag ym mis Mai 2012.

O'r galwadau hynny roedd 14,132 yn alwadau Categori A, sef y rhai mwyaf argyfyngus - unwaith eto 1.7% yn is na mis Ebrill ond 3.8% yn uwch na'r un cyfnod y llynedd.

Cafwyd ymateb i 62.5% o alwadau Categori A o fewn targed Llywodraeth Cymru o wyth munud. Er bod hynny'n gynnydd sylweddol o'r ffigwr o 57.2% ym mis Ebrill, mae'n dal yn is na'r targed o 65%, a hynny am y deuddegfed mis yn olynol.

Fe gafwyd ymateb i 80% o'r galwadau o fewn 12 munud, a 94% o fewn 20 munud.

Rhyddid gwybodaeth

Yn gynharach yn y mis fe ddatgelodd Plaid Cymru eu bod wedi cyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am amseroedd ymateb ambiwlansys.

Fe ddaeth i'r amlwg fod ambiwlansys wedi cymryd dros 20 munud i ymateb i 11,000 o alwadau brys yn 2012-13.

Dangosodd y wybodaeth nad oedd yr ambiwlans wedi cyrraedd un galwad yng nghategori A yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am 7 awr tra ei bod hi wedi cymryd 4 awr i'r ambiwlans ymateb yng Nghwm Taf.

Wrth ymateb bryd hynny dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae yna gonsensws na ddylai'r targed o wyth munud gael ei weld fel yr unig ffordd i fesur perfformiad yr ambiwlansys.

"Tra bod cyflymder yn bwysig iawn ar gyfer rhai afiechydon megis trawiad ar y galon, does dim llawer o dystiolaeth glinigol sydd yn profi y byddai cyflyrau eraill llai difrifol yn elwa o gael ymateb o fewn wyth munud.

"Rydyn ni ar hyn o bryd yn ystyried sut y gall perfformiad y gwasanaeth ambiwlans gael ei fesur yn well i adlewyrchu'r canlyniad i'r claf, ac nid jest yr amser y mae'n cymryd i'r ambiwlans gyrraedd."