Eisteddfod ola' i Hywel Wyn Edwards fel Trefnydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Pafiliwn Pinc yn ei le, y gwersyllwyr ar eu ffordd, a'r trefnwyr wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio sicrhau fod popeth yn ei le ar gyfer cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych nos Wener.
Yn sicr, mae'r wythnos nesa' yma yn benllanw misoedd o waith a phrysurdeb i Drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards.
Ond hon fydd y flwyddyn olaf iddo fod yn rhan o'r paratoadau, gan ei fod yn ymddeol ddiwedd y flwyddyn wedi 20 mlynedd yn y swydd.
Fe ddechreuodd ar ei rôl fel Trefnydd y Gogledd ar ddiwedd Prifwyl Llanelwy yn 1993.
Bu'n sôn wrth BBC Newyddion Ar-lein am ei deimladau a rhai o'i atgofion ar drothwy ei Brifwyl olaf wrth y llyw.
"Dwi ddim yn meddwl 'mod i wedi llwyr sylweddoli - dwi'n paratoi ar gyfer hon yn union 'run fath â dwi wedi paratoi ar gyfer pob un o'r lleill.
"Gan nad ydw i'n mynd tan Dolig, ella na fydd o'n fy hitio nes bydd yr Eisteddfod wedi gorffen.
"Mae 'na faneri a bunting ym mhobman erbyn hyn, mwy nag yr ydw i wedi'i weld yn yr un Eisteddfod arall bron. Mae'r croeso yn Sir Ddinbych yn amlwg - mae 'na liw i'w weld ym mhobman."
Newid
Ac yntau wedi bod yn ei swydd dros ddau ddegawd, mae Hywel Wyn Edwards wedi gweld tipyn o newid dros y blynyddoedd.
"Mae disgwyliadau pawb wedi newid wrth gwrs. Ond o ran maint y safle, er enghraifft, mae'r Maes yn Ninbych yn 2013 yr union 'run faint o aceri ag Eisteddfod Abergele 'nôl yn 1995 - sef 70 acer.
"Ond mae'r ffordd mae'r Maes yn cael ei osod allan wedi newid - mae rhai o'r stondinau a'r cwmnïau wedi newid, mae rhai adeiladau wedi newid.
"Mae 'na newid wedi bod o ran cystadlaethau hefyd - rhai gwan wedi diflannu am nad oedd neb yn cystadlu. Ond mae 'na rhai newydd wedi dod yn eu lle. 'Nôl yn y 90au, mi ddaeth cystadleuaeth Richard Burton. Mae'r monolog dan 16 oed yn hau'r hedyn ar gyfer y Richard Burton. Mae 'na ddwy gystadleuaeth sioe gerdd. Mae patrwm y cystadlaethau corawl wedi newid hefyd.
Un pwnc trafod sydd wedi codi'n gyson yn ystod cyfnod Hywel Wyn Edwards fel Trefnydd yw rheol Gymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae o'r farn fod angen cadw ati yn llym os am amddiffyn statws yr iaith yn y Brifwyl.
"Mae 'na rai yn dweud y dylen ni ymlacio'r rheolau ar gyfer cyngherddau ac ati ond, yn bersonol, dydw i ddim yn meddwl y dylen ni.
"Gan mai Eisteddfod Genedlaethol Cymru ydy hon, dwi'n meddwl y dylen ni fod yn defnyddio'r iaith Gymraeg - fedra' i ddim meddwl y byddai unrhyw genedl arall yn y byd, pe bai'r peth unigryw yma ganddyn nhw, y bydden nhw'n caniatáu nac eisiau defnyddio ieithoedd eraill.
"Os agorwch chi gîl y drws, mae hwnnw'n mynd yn fwy ac mewn dim o dro mae cîl y drws wedi troi'n ddrws sy'n agored yn llydan."
O sôn am newid, bydd Prifwyl ola' Hywel Wyn Edwards yn sicr yn llawn pethau newydd - mae'r Eisteddfod eleni wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'w harlwy, a hyn ar adeg pan mae Tasglu wedi'i sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar ddyfodol yr Ŵyl.
"Mae 'na ddatblygiad enfawr eleni," meddai Mr Edwards. "Ac mae'r newidiadau hyn wedi'u cyflwyno heb y llywodraeth. 'Dan ni'n derbyn llai na hanner miliwn gan Lywodraeth Cymru - faint mae gwyliau eraill yn cael? Mae'n costio £3.3 miliwn i lwyfanu'r Eisteddfod."
'Bom yn y Pafiliwn'
Mae swydd y Trefnydd yn cwmpasu nifer o agweddau'r Brifwyl, ac mae Hywel Wyn Edwards wedi cael nifer o brofiadau cofiadwy dros y blynyddoedd.
"Mae 'na rywbeth bron ym mhob Eisteddfod am ryw reswm neu'i gilydd...Roedd Eisteddfod Abergele (yn 1995) yn un hynod am fod John Gwilym yn gorffen fel Archdderwydd ac roedd pawb yn dyfalu a oedd e'n mynd i gadeirio ei fab, Tudur Dylan.
"Dwi'n credu iddo fod yn dipyn o sioc i bawb bod e wedi coroni ei frawd ar y dydd Llun. Ro'n i'n gwybod y byddai'n cadeirio ei fab ers canol mis Mai ac wedi'i gadw'n dawel am yr holl wythnosau.
"Dwi'n cofio, ar y pnawn Gwener hwnnw, mi gawson ni alwad ffôn yn dweud bod bom yn y Pafiliwn, ychydig cyn y seremoni cadeirio. Roedd ar adeg yr IRA ac ati, felly roedd rhaid i ni ei gymryd o ddifri. Beth bynnag, wedi trafod gyda'r heddlu, cario 'mlaen wnaethon ni er bod yr Ysgrifennydd Gwladol newydd ar y pryd, William Hague, yn eistedd yn y rhes flaen."
Ond beth yn union yw dyletswyddau Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol?
"Wel mae'r gair Trefnydd yn y Gymraeg yn cwmpasu popeth mewn difri", meddai Mr Edwards. "Dwi 'di bod o'r farn bod angen gwybod am bopeth sy'n digwydd. Yr ochr gystadleuol ydy'r prif waith mae'n debyg, ond mi rydw i hefyd yn cymryd diddordeb ym Maes yr Eisteddfod ei hun, a phob agwedd o hynny.
"Mae o mor amrywiol a dyna be' sy'n gwneud y gwaith mor ddiddorol. Does yna'r un ddau ddiwrnod yr un fath...Tîm bychan ydan ni ar ddiwedd y dydd a dwi'n meddwl ei fod yn bwysig cymryd diddordeb ym mhob un peth."
A chymryd diddordeb "ym mhob un peth" fydd Hywel Wyn Edwards dros yr wythnos nesa' yn Ninbych - cyn iddo drosglwyddo'r awenau i'w olynydd, Elen Huws Elis, ym mis Medi.