Tollau pontydd Hafren ar gyfer cynllun M4?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio tollau bontydd Hafren i dalu am ffordd liniaru ar gyfer yr M4.

Byddai'r ffordd newydd yn cael ei hagor mewn ymgais i leddfu problemau trafnidiaeth ar y draffordd yn ardal Casnewydd.

Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cymreig, dywedodd Ms Hutt fod trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros drosglwyddo pwerau am y pontydd yn "adeiladol iawn".

Er bod Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio tollau i dalu am y ffordd liniaru, dywedodd Ms Hutt ei bod yn gobeithio y gallai'r gost o groesi afon Hafren gael ei leihau ar gyfer cerbydau mawr a rhai sy'n ei defnyddio'n aml.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill nad oedd cynlluniau i godi toll ar y ffordd liniaru.

Dywedodd y Canghellor George Osborne yn ystod ei ddatganiad ar yr adolygiad gwariant ym Mehefin y byddai'n darparu manylion yn fuan am gynlluniau "trawiadol" ar gyfer yr M4.

Fe wnaeth Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, yna gyhoeddi y byddai yna ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn cael ei gynnal o fis Medi ymlaen.

Dywedodd Ms Hart ar y pryd mai ymdrin â phroblemau yn ymwneud â'r M4 oedd "her drafnidiaeth fwyaf" ei llywodraeth a bod gwneud hynny'n hanfodol ar gyfer gwneud Cymru'n fwy cystadleuol yn economaidd.

Cafodd y cynlluniau gwreiddiol i wella'r ffordd eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn 2004.

'Rhagdybio'

Yn ymateb i'r hyn ddywedodd Ms Hutt, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Dafydd Elis-Thomas: "Rwy'n synnu fod Gweinidog cyllid Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai tollau Pontydd Hafren yn talu am gost ffordd newydd yr M4.

"Mae hyn yn rhagdybio y bydd tollau yn parhau mewn grym wedi i Bontydd Hafren gael eu dychwelyd i ddwylo cyhoeddus.

"Er mwyn i hyn ddigwydd, mae arnom angen dadl wirioneddol, dadl genedlaethol am y Pontydd pan ddeuant yn ôl i ddwylo cyhoeddus."

Mae Cymdeithas y Cyflogwyr CBI wedi croesawu'r cynllun.

Dywedodd cyfarwyddwr y CBI Emma Watkins: "Oherwydd y rôl hanfodol bydd ffordd liniaru'r M4 yn ei chwarae mewn adfywio economi'r wlad, mae CBI Cymru yn cefnogi defnyddio tollau pont Hafren i ariannu'r cynllun."

"Bydd ffordd liniaru'r M4 yn dod a busnes i Gymru, cael pobl i waith a nwyddau i'r farchnad. Nid oes gan unrhyw gynllun arall yr un potensial i drawsnewid economi de Cymru at y dyfodol."