Archwilio i werthiant tir cyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae'r adroddiad hwn yn destun cwyn gyfreithiol y Gronfa Fuddsoddi er Adfywio
Mae BBC Cymru yn deall fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyfeirio manylion gwerthiant 16 ardal o dir cyhoeddus i'r Swyddfa Twyll Difrifol.
Cafodd y tir ei werthu am tua £20 miliwn ond mae 'na bryder y gallai fod wedi dod â degau o filiynau o bunnoedd yn rhagor i drethdalwyr.
Mae'r Swyddfa Archwilio, a ddechreuodd ymchwilio i'r mater y llynedd, yn canolbwyntio'n benodol ar y penderfyniad i werthu'r safleoedd yn breifat yn hytrach na thrwy ocsiwn cyhoeddus.
Fis Mawrth y llynedd cafodd rhannau o dir ar draws Cymru eu gwerthu i gwmni o Guernsey o'r enw South Wales Land Developments.
Yn lle bod yna broses dendro agored, cysylltiwyd ag 18 o asiantau eiddo a datblygwyr a chafodd y safleoedd eu rhoi gyda'i gilydd mewn un portffolio yn hytrach na chael eu gwerthu ar wahân.
Roedd y math o dir yn amrywio o ffermydd yng Ngwynedd i gyn safle diwydiannol yng Nghwm Cynon a rhan o barc busnes yng Nghasnewydd.
£1 miliwn yr acer
Ond yr ardal gyda'r gwerth mwya' oedd 120 acer o dir fferm ger pentre' Llysfaen yng ngogledd Caerdydd, a oedd wedi bod dan berchnogaeth gyhoeddus ers blynyddoedd.
Cafodd y tir ei werthu ar raddfa amaethyddol o tua £15,000 yr acer ond bedwar mis yn ddiweddarach roedd wedi'i gynnwys yng nghynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer tai newydd, allai fod wedi ei wneud yn un o'r safleoedd mwya' gwerthfawr yng Nghymru, gyda phris potensial o thua £1 miliwn yr acer.
Mae yna broses sy'n golygu y gallai'r trethdalwr elwa o unrhyw gynnydd mewn gwerth. Dyw'r ffigwr hwnnw ddim wedi cael ei ddatgelu ond mae BBC Cymru yn deall nad yw'n fwy na 50% o'r cynnydd.
Safle gwerthfawr arall yw'r 16 acer o dir ar gyrion Mynwy, a oedd wedi'i brisio tua £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Ers y gwerthiant, mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar y cyd rhwng Cyngor Sir Fynwy a South Wales Land Developments ar gyfer 370 o gartrefi. Does dim penderfyniad wedi'i wneud eto.
Yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, roedd darn o dir wedi'i brisio yn £100,000 ger Y Pîl. Ers hynny mae cais cynllunio wedi'i wneud gan Gyngor Pen-y-bont a South Wales Land Developments am 94 o dai.
Pryderon
Tra bod prosesau mewn lle ar gyfer hawlio arian ychwanegol yn Llysfaen a Mynwy, does dim trefniant tebyg ar gyfer y rhannau eraill o dir.
Cafodd pryderon am ddull y gwerthu eu cyfeirio at yr archwilwyr yn wreiddiol gan yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Byron Davies.
Roedd y tir wedi bod dan berchnogaeth gyhoeddus ers blynyddoedd, ar ôl cael ei brynu gan Awdurdod Tir Cymru ac Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA) cyn iddynt ddod dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Cafodd y tir ei drosglwyddo gan y llywodraeth i sefydliad o'r enw y Gronfa Fuddsoddi er Adfywio (RIFW) yn 2010. Mae'r corff hwnnw yn gweithredu ar wahân ond yn dal i fod dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Cafodd RIFW ei sefydlu i fuddsoddi mewn prosiectau i adfywio canol trefi ac roedd wedi'i ariannu gan Ewrop a Llywodraeth Cymru.
Yn lle ariannu'r corff, crewyd cyllid trwy werthu 16 ardal o dir am tua £21 miliwn.
'Adolygiad eang'
Dywedodd Mike Usher, Cyfarwyddwr Grŵp gyda Swyddfa Archwilio Cymru: "Wedi i bryderon gael eu codi gan Aelod Cynulliad, fe benderfynodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Medi 2012 i gynnal astudiaeth gwerth am arian i Gronfa Buddsoddi Cymru Mewn Adfywio.
"Yn dilyn hynny fe gyhoeddon ni estyniad yng nghylch gorchwyl yr astudiaeth ym mis Hydref 2012.
"Mae ein gwaith nawr bron wedi'i gwblhau, ac mae wedi cynnwys adolygiad eang o ddogfennau Llywodraeth Cymru a RIFW, a chynhaliwyd cyfres o gyfweliadau gydag ystod eang o unigolion a sefydliadau.
"Tra bod ein hymchwiliad yn edrych ar bob agwedd o RIFW, gan gynnwys trefniadau llywodraethol a'r oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru, rydym hefyd yn edrych yn ofalus ar bob gwerthiant tir a phenderfyniad buddsoddi.
"Mae ein harchwilwyr yn edrych yn enwedig ar benderfyniadau RIFW i werthu tir yn breifat yn hytrach na thrwy ocsiwn cyhoeddus.
"Nid ydym eto mewn sefyllfa i bennu dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r adroddiad ond byddwn yn gwneud hynny cyn gynted â phosib."
Doedd y Swyddfa Twyll Difrifol ddim yn fodlon cadarnhau na gwadu bod ganddynt hwy ran yn y mater.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi atal y gronfa adfywio ac yn cynnal dau ymchwiliad mewnol.
Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gwerthiant, gan ddweud fod y swm yn fwy na'r pris a amcangyfrifwyd yn annibynnol a bod y tir wedi'i becynnu gyda'i gilydd i atal datblygwyr rhag dewis a dethol y safleoedd gorau.
Dyw South Wales Land Developments ddim wedi gwneud unrhyw sylw ar y mater ond yn y gorffennol maent wedi dweud fod y cytundeb wedi arwain at lawer o weithgaredd masnachol ar y safleoedd yn dilyn cyfnod tawel iawn.
Roedd y cwmni a'r llywodraeth yn mynnu y byddai'r trefniant i hawlio arian ychwanegol yn adlewyrchu unrhyw gynnydd sylweddol yng ngwerth y tir.