Ail gartrefi Môn: 'Risg sylweddol' o orfod ad-dalu arian treth

Pont MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Môn yn cadw tua £900,000 wrth gefn ar gyfer ad-daliadau treth posib

  • Cyhoeddwyd

Mae yna "risg sylweddol" y bydd rhaid i Gyngor Môn ad-dalu arian treth yn sgil newidiadau i'r rheolau ar ail gartrefi a llety gwyliau.

Mae tua £900,000 o arian dros ben wedi ei glustnodi ar gyfer yr ad-daliadau fydd, o bosib, angen eu talu yn 2025/26.

Yn ôl adroddiad newydd gan yr awdurdod, mae'r nifer sydd wedi symud i dalu treth y cyngor yn hytrach na chyfraddau busnes wedi cynyddu yn "sylweddol" ers newid rheolau treth.

Ond o ganlyniad i hynny, mae'r adroddiad yn awgrymu y bydd nifer o bobl sydd wedi gweld newid yn eu taliadau yn dewis apelio a cheisio hawlio arian yn ôl.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn rhagweld incwm o £432,000 yn deillio o dreth y cyngor eleni - sydd yn uwch na'r hyn oedd wedi ei ddisgwyl.

Fel rheol, mae'r swm yma yn disgyn yn ystod y flwyddyn wrth i bobl geisio hawlio pres yn ôl, ac mae adroddiad y cyngor yn awgrymu y gall nifer yr aelwydydd sy'n talu'r premiwm ail gartrefi leihau yn sylweddol eleni.

"Mae'n debygol y bydd nifer o bobl yn apelio, gydag apeliadau llwyddiannus yn gweld pobl yn symud yn ôl i fod ar y gofrestr cyfraddau busnes," meddai'r adroddiad.

"Yn ogystal, fe fydd perchnogion llety hunan arlwyo yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gyd-fynd â'r rheolau newydd oherwydd y manteision ariannol, ac fe all hynny arwain at gynnal ail-asesiadau.

"O ganlyniad, mae yna risg sylweddol y bydd rhaid i'r cyngor ad-dalu symiau mawr o arian treth cyngor yn 2025/26. Er mwyn lleihau'r risg yma, mae £900,000 o arian dros ben wedi cael ei glustnodi ar gyfer yr ad-daliadau posib."

'Mewn sefyllfa gadarn ar hyn o bryd'

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth dywedodd Marc Jones, un o swyddogion y cyngor: "Fe fydd nifer o apeliadau yn cael eu cyflwyno, neu fe fydd perchnogion yn newid trefniadau ac yn cynyddu nifer y dyddiau y mae'r llety ar gael fel bod modd mynd yn ôl i dalu cyfraddau busnes.

"Er ei bod hi'n ymddangos fel y bydd ein hincwm yn codi eleni, dwi'n rhagweld y bydd rhan o'r arian yma yn cael ei golli a bydd y ffigwr yn gostwng felly rydyn ni wedi cadw arian wrth gefn i sicrhau nad ydyn ni'n cael ein taro yn galed.

"Rydyn ni mewn sefyllfa gadarn ar hyn o bryd ac mae'r gyllideb yn ein rhoi ni mewn sefyllfa galonogol wrth symud i 25/26."

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi fod y cyngor wedi rhoi mwy o adnoddau tuag at ganfod achosion o geisio osgoi taliadau treth, a bod y gwaith hwnnw hefyd "wedi cael effaith ar faint o dreth sy'n cael ei dalu".

Pynciau cysylltiedig