EastEnders yn 40: Atgofion Cymry Albert Square

  • Cyhoeddwyd

Ag un o operâu sebon mwya'r BBC yn troi'n 40 ar 19 Chwefror, Gary Slaymaker sydd wedi bod yn hel atgofion gyda rhai o'r Cymry sydd wedi mentro i East End Llundain ac i Albert Square dros y blynyddoedd.

Logo Eastenders a'r ddraig goch

Fel mae pawb yn gwybod, prif opera sebon y BBC yw Pobol y Cwm; ond yn 1983, fe fuodd 'na gyfarfod o bwysigion y gorfforaeth, i weld os oedd modd estyn ar y boblogrwydd mewn dramâu cyfredol drwy ychwanegu un newydd at y rhestr.

"Ma'r Cymry'n neud hi'n lled dda gyda'r 'Pubble i Gum' 'na; allwch chi feddwl am ddrama arall allen ni gynnig gyda chriw o bobl, yn dechrau gyda'r lythyren C?" Cododd un boi bach ei law, a chynnig, "Cockneys?", ac yn y fan a'r lle, fe aned EastEnders.

(Nawr, 'wy'm yn gweud mae fel hyn yn gywir ddigwyddodd hi, ond o nabod fel ma'r BBC wedi gweithredu dros y blynyddoedd, mae'n 'neud synnwyr llwyr i fi.)

Gyda thrigolion Walford yn dathlu penblwydd yn 40 eleni, mae'n gyfle euraidd i edrych nôl dros y blynyddoedd ar yr actorion o drâs Cymreig, sydd wedi ymweld ag Albert Square.

Y Butcher o Bermo

Un o gymeriadau mawr y gyfres, yn ei hamser, oedd Janine Butcher (hefyd Janine Carter, Evans, Malloy a Moon... 18 mlynedd ar y sgrin, a fe lwyddodd hi briodi hanner y Sgwâr).

Janine Butcher (Charlie Brooks)
Disgrifiad o’r llun,

Janine Butcher (Charlie Brooks) - o Bermo i'r East End

Yr actor ola' i chwarae Janine oedd Charlie Brooks; yn enedigol o Swydd Hertford, symudodd i'r Bermo pan yn blentyn.

Mae hi wedi dweud am ei phlentyndod: "Er mor brydferth yw'r Bermo, ac er cymaint dwi'n caru'r lle, o'n i'n despret i adael, achos o'n i'n gwbod nad odd y dre yn cynnig digon i mi."

Hallt, ond 'wy'n amau os fydde hi wedi cael y cyfle i wthio Barry Evans oddi ar glogwyn ger y Bermo...

Tom Ellis
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Tom Ellis ymlaen i actio yn America ar ôl i Dr Oliver Cousins adael Walford

Ma' 'na ambell i un sydd wedi mynd yn bell ers gadael y Sgwâr. Fe fu Tom Ellis (yn enedigol o Gaerdydd) yn chwarae Dr Oliver Cousins am 29 pennod o'r sebon yn 2006.

Wedi gadael fe aeth ymlaen i chwarae Gary yn y gyfres gomedi, Miranda, cyn gadael am UDA a serennu yn y gyfres ffantasi gwlt, Lucifer.

Richard Elis, ffrind i matriarchs y Sgwâr

Ond o ran Cymry Cymraeg 'nath ymddangos yn EastEnders, o bosib yr enwoca' yw Richard Elis o Rydaman a wnaeth bortreadu cymeriad Huw Edwards am bron i dair blynedd.

Roedd Huw yn enedigol o Bontarddulais, ac mor belled â 'wy'n cofio, dyma'r acen cryf Cymraeg cynta i'w glywed ar y sebon.

Ei linell gynta yn y gyfres, a hynny ym mis Mai 1996, o'dd gyda Tiffany Mitchell (Martine McCutcheon), wnaeth ofyn, "What cocktails do you do?" Ateb ein Cymro sionc oedd, "I'm Huw, I will make anything you want".

Huw Edwards (Richard Elis)
Disgrifiad o’r llun,

Huw Edwards (Richard Elis)

Fues i'n siarad gyda Richard yn ddiweddar am ei gyfnod ar y sioe:

"Ro'dd y diwrnod cynta ar y set yn hollol swreal. O'n i ddim cweit yn gwbod ble ro'n i'n mynd, a fe gerddais i ar set Albert Square drwy gamgymeriad, a'r person cynta weles i oedd Barbara Windsor (Peggy Mitchell), 'nath ddweud 'Oh, hello, how are you?', a rhoi'i llaw rownd fi.

"Hanner awr ar ôl 'ny, ffindies i gi bach o'dd yn rhedeg rownd y maes parcio. Es i ag e mewn i'r ystafell werdd, a digwydd bod, ci Wendy Richard (Pauline Fowler) o'dd e.

"Drwy lwc pur 'nes i bennu lan yn bod yn boblogaidd 'da'r ddwy brif matriarch ar y gyfres, a 'nath hwna sorto fi mâs am weddill yn amser ar y ddrama."

Lenny a Huw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw yn rhannu fflat gyda Lenny Wallace (Desune Coleman)

'Nath Rich lanio ar ei draed yn berffaith o'r cychwyn, yn amlwg, ond beth am y profiadau rhyfedd, neu doniol, o ddelio gyda ffans selog y gyfres?

"O'n i mewn gig Manics, neu falle Stereophonics, yng nghastell Caerdydd, ac o'dd 'na rhyw 20 o ferched ifanc wedi rhedeg lan ata i, a'n ngwthio i'r llawr gan ddweud, 'Sorry, we hear you got married. Where's your wife?' A 'wedes i, 'You're actually standing on her...'

"Yn y sgarmes wyllt i gyrraedd fi, ro'n nhw wedi bwrw'n ngwraig i, Tonya, i'r llawr, a ro'dd un o'r merched yn sefyll ar ei phen hi!"

Yr ochr llai difyr o fod yn seren opera sebon, yn amlwg.

Ffeit Gareth Potter a Nick Berry

Ond y Cymro cynta i fi gofio gweld ar y Sgwâr odd yr actor, canwr, cerddor, ac eicon celfyddyd pop Cymru, Gareth Potter.

Gareth Potter fel Harry Reynolds
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Potter yn ei bennod gyntaf yn EastEnders fel Harry Reynolds

Yn ail flwyddyn EastEnders fe gyflwynwyd gŵr ifanc o'r enw Harry Reynolds. Roedd yn cael ei ddisgrifio fel fel 'radical Marxist', a'i brif rôl yn y stori oedd i fod yn rheolwr ar fand oedd yn cynnwys rhai o do ifanc y sgwâr; Sharon Watts, Simon Wicks ac Ian Beale yn eu plith.

Roedd Gareth wedi bod yn rhan o gast District Nurse am dair blynedd, gyda Julia Smith yn cynhyrchu. Hi aeth ymlaen i gynhyrchu EastEnders, a hi gofiodd am yr actor ifanc i chwarae rhan y Svengali tanllyd yma.

Gyda tua 15 i 20 miliwn yn gwylio EastEnders yn rheolaidd, roedd 'na her yn wynebu Gareth, cofiodd. "O'n i'n foi swil iawn, ond wedyn pan ges i'r job, ro'dd rhaid i fi 'weud 'tho'n hunan, rhaid i ti beidio bod yn swil nawr.

"O'n i ddim wir yn lico bod yn enwog, ond fe ga'th wared ar y swildod."

Rhai o aelodau band The Banned gyda'u rheolwr
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau band The Banned gyda'u rheolwr - Simon Wicks (Nick Berry), Harry Reynolds (Gareth Potter), Eddie Hunter (Simon Henderson) ac Ian Beale (Adam Woodyatt)

Ro'n i'n gyfarwydd â Gareth fel prif leisydd y grŵp Clustiau Cŵn, ac wedyn Traddodiad Ofnus; ond shwt odd bod yn wyneb amlwg mewn opera sebon yn cydfynd gyda'i yrfa fwy gwrthryfelgar yn y sîn roc Gymraeg ar y pryd?

"Do'dd aelodau Traddodiad Ofnus ddim yn rhy hapus cael seren opera sebon yn arwain y band; o'n nhw'n teimlo bod e'n 'neud niwed i unrhyw 'cred' fydde gyda ni!"

Yn anuniongyrchol, oni bai am Harry Reynolds, bydde neb wedi gorfod clywed (dioddef?) Every Loser Wins gan Nick Berry, cân oedd wedi ei rhyddhau fel spin-off i'r band yn y gyfres. Bydde Gareth yn hoffi ymddiheuro?

"Y noson o'dd Nick yn rhif un ar Top of the Pops, yn syth ar ôl hynny, ro'dd 'na bennod o EastEnders yn cael ei darlledu, a'r olygfa gynta yn y rhaglen o'dd fi a Nick Berry'n cael ffeit... O'dd Nick yn foi annwyl iawn; odd e'n byw yn Brighton, drws nesa i Fatboy Slim."

Neith hwnna'r tro i fi - mae e'n rhoi mwy o 'street cred' i Nick Berry 'na mae e'n haeddu, falle.

Penblwydd hapus i'r Cockneys, ac i'r Cymry sydd wedi bod yn eu plith.

Pynciau cysylltiedig