Llaeth y Llan yn 40: 'Mae'n anodd credu lle ydan ni heddiw'

Teulu Roberts ar safle cynhyrchu iogwrt, Llaeth y Llan
- Cyhoeddwyd
"Fe ddechreuodd y cyfan yn y cwpwrdd dŵr poeth efo dau fwced ac efo napis (glân) Gruffydd rownd nhw."
Dyna eiriau Falmai Roberts wrth iddi sôn am sut y sefydlwyd y cwmni iogwrt Llaeth y Llan 40 mlynedd yn ôl.
O fod yn gwerthu i gwsmeriaid tra ar rownd laeth ac mewn siop gigydd yn Abergele, mae'r cwmni bellach yn cynhyrchu 15 miliwn o botiau bach o iogwrt ac yn cyflenwi sawl archfarchnad ac ysgol yng Nghymru.
Ond roedd y cyfan wedi dechrau ar fuarth fferm fechan yng nghefn gwlad Sir Conwy ac wedi mynd o nerth i nerth dros y degawdau.
Sefydlu Llaeth y Llan
Y ddau a sefydlodd y cwmni ym 1985 oedd Gareth a Falmai Roberts o Lannefydd.
Dywedodd Falmai ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru: "Nes i ddod nôl o coleg ar ôl dysgu sut i'w 'neud o. Dyma Gareth yn deud, 'rydan ni am 'neud o rŵan, 'dio da i ddim byd mynd ar y cyrsiau 'ma a gneud dim byd.'
"Ro'n i newydd gael y mab fenga Gruffydd, dyma fi'n neidio i'r cwpwrdd dŵr poeth efo dau fwced a napis Gruffydd rownd nhw," meddai.
Dyna'r gyfrinach o greu'r iogwrt cyntaf, ond gyda'r teulu yn dosbarthu llaeth yn lleol, dyma ddechrau gwerthu'r iogwrt cartref i'w cwsmeriaid.
"Ddaru ni ddechre yn gyntaf ar y rowndiau llefrith, y siop gynta' oedd bwtshar yn Abergele.
"Roedden nhw'n cael eu potio mewn potiau gwyn a sgwennu 'iogwrt' arno fo, ac roedd o'n mynd ac roedden nhw'n gofyn am fwy," meddai Falmai.

Gareth a Falmai Roberts sefydlodd y cwmni nôl yn 1985
Yn sydyn roedd y gofyn am yr iogwrt yn cynyddu ac felly roedd rhaid dosbarthu mwy.
Dywedodd Gareth: "Ddaru ni dyfu yn organig, ddim dros nos, pob tamed o elw 'natho ni, gafodd o'i droi fewn i'r busnes, debyg i'r ffermwr, a wastad yn buddsoddi yn ôl fewn i'r busnes.
"O ran y blasau cyntaf; mafon, mefus, ceirios duon, dyna'r ffrwythau cyntaf. Lawr i'r Cash and Carry yn Rhyl a chodi'r tuniau a dyna sut y cychwynnon ni.
"Roedd o'n bartneriaeth dda, Falmai yn mynd allan i'w werthu o a finna yn ei gynhyrchu fo adre efo rhyw un neu ddau o staff," meddai.

Owain a'i wraig Nia sydd nawr yn rhedeg y busnes teulu
Dros y blynyddoedd fe dyfodd y cwmni, ac erbyn heddiw mae Gareth a Falmai wedi pasio'r awenau i'w mab Owain a'i wraig Nia sy'n rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd.
Dywedodd Owain: "Rydan ni'n cynhyrchu tua 12 miliwn o botiau bychan a 3 miliwn o botiau mwy pob blwyddyn.
"Taffi ydi'r blas mwyaf poblogaidd ond rydan ni'n edrych ar ystadegau i gadw golwg ar sut mae'r blasau yn 'neud," meddai.
Wrth edrych yn ôl dros y 40 mlynedd a thyfiant aruthrol y cwmni, mae Gareth a Falmai yn bendant mai dyfalbarhad sydd wrth wraidd y llwyddiant.
Dywedodd Gareth: "Mae o wedi mynd yn andros o sydyn. Dyfalbarhad ydi'r peth.
"Roedd yna adegau lle doedd 'na ddim elw yn cael ei 'neud, ond wastad ar y gorwel roedd pethe am fod yn iawn.
"Mae'n anodd credu lle ydan ni heddiw," meddai.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
Mae'r teulu hefyd yn ddiolchgar iawn i'w cwsmeriaid ffyddlon dros y blynyddoedd.
"Mae'n rhaid i ni ddeud ein bod ni wedi cael cwsmeriaid clên. Methu gwneud dim byd heb y cwsmeriaid ac mae wedi bod yn dda i ni gyd," meddai Falmai.
Wrth edrych ymlaen at y dyfodol bydd ambell ddathliad ar y gorwel gan y cwmni ond maent yn benderfynol o beidio anghofio eu gwreiddiau cefn gwlad a phwysigrwydd y gymuned leol.
"Mae'r stori wedi dechre yn Fferm Tal y Bryn, fferm fach 50 acer, dyma ble gafodd Llaeth y Llan ei eni yn 1985.
"Rydan ni mor ffodus lle rydan ni'n byw, mae'r gymuned mor bwysig i ni fel cwmni," meddai Owain.