Pwy fydd prif hyfforddwr nesaf Cymru?

hyfforddwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Wedi ei ymadawiad dramatig wythnos diwethaf mae'r sylw eisoes wedi troi at bwy sy'n debygol o olynu Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr tîm Rygbi Cymru.

Matt Sherratt o Gaerdydd fydd yn cydio yn yr awenau dros dro a hynny am y tro cyntaf ddydd Sadwrn yn erbyn grym y Gwyddelod. Ond mae 'na sawl enw yn y ras i ymgymryd â'r gwaith yn yr hirdymor, felly dyma bwyso a mesur yr opsiynau.

Simon Easterby

Simon EasterbyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Easterby 65 o gapiau dros Iwerddon rhwng 2000 a 2008

Hyfforddwr dros-dro Iwerddon fydd y nesaf i geisio llorio Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae Easterby wedi ymddangos fel un o'r enwau ar restr fer Undeb Rygbi Cymru ac mae hynny'n ddealladwy.

Ma'r gŵr a anwyd yn Swydd Efrog, ond a gynrychiolodd Iwerddon a'r Llewod, â chysylltiad amlwg â Chymru, yn briod â'r gyflwynwraig Sarra Elgan ac yn byw gyda'i deulu ym Mro Morgannwg.

Dyw Easterby ddim yn ddiarth i rygbi Cymru gan iddo chwarae a hyfforddi Llanelli ac yna'r Scarlets dros gyfnod o 15 mlynedd. Ond a fydd hyn yn ddigon i ddwyn perswâd arno i roi'r gorau i'w swydd gydag Iwerddon â'r cyfle bosib i olynu Andy Farrell? Amser a ddengys.

Tebygolrwydd: 6/10

Franco Smith

franco smithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Smith yn brif hyfforddwr gyda'r Eidal o 2019 i 2021, ond mae bellach yn hyfforddi'r Glasgow Warriors

Mae Smith yn cael ei gydnabod yn hyfforddwr craff a'i statws wedi cynyddu ar ôl arwain Glasgow i ennill Y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y llynedd.

Ma'r gŵr 52 oed o Dde Affrica â chysylltiad â Chymru gan iddo gynrychioli Casnewydd yn y 1990au, ac ers hynny mae wedi bwrw ei brentisiaeth fel hyfforddwr yn Ne Affrica ynghŷd a thîm cenedlaethol Yr Eidal.

Bydde hi ddim yn syndod pe bai'r Alban yn gwneud ymholiadau am ei wasanaeth hefyd pe bai Gregor Townsend yn penderfynu codi pac, ond yn ddiddorol fe wrthododd i wadu bod trafodaethau wedi bod â Chymru mewn cyfweliad diweddar.

Tebygolrwydd: 7/10

Michael Cheika

CheikaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiadu bod gan Cheika, sy'n 57 mlwydd oed, ddiddordeb mewn arwain Cymru

Y gŵr o Awstralia mewn ffordd ddechreuodd rediad gwaethaf tîm Cymru oherwydd fe oedd yn hyfforddi'r Ariannin pan enillodd y Pumas yn rownd wyth ola' Cwpan y byd 2023 yn Marseillie.

Yn hyfforddwr hynod brofiadol â natur diflewyn ar dafod, fe roedd yng ngofal tîm Awstralia pan gollodd y Wallabies i'r Crysau Duon yn rownd derfynol Cwpan y Byd 2015. Mae hefyd wedi profi llwyddiant yng nghystadlaethau mwyaf y ddau hemisffer gyda Leinster a NSW Waratahs.

Mae 'na sôn yn awgrymu ei fod â diddordeb yn y swydd ar ôl penderfynu peidio adnewyddu ei gytundeb presennol â Chaerlŷr.

Tebygolrwydd: 8/10

Brad Mooar

Brad MooarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mooar wedi hyfforddi gyda chlybiau yn Sbaen, De Affrica a Seland Newydd, yn ogystal â'r Scarlets yng Nghymru

Eto yn un arall sydd â chysylltiad â Chymru, gan iddo hyfforddi'r Scarlets yn 2019-20. Bellach nôl yn Seland Newydd gyda'r Crusaders, mae Mooar wedi ennyn profiad rhyngwladol fel aelod o dimau hyfforddi Seland Newydd, Yr Alban a'r Ariannin.

Yn gyfathrebwr da ac yn ffigwr poblogaidd, mi oedd ei ddull hyfforddi'n cael ei ystyried yn arloesol gan nifer fawr o chwaraewyr y Scarlets. Roedd yn hyfforddwr ymosod gyda'r Alban tan yn gymharol ddiweddar, ond o bosib fyddai'n cael ei demtio gan y cynnig o fod yn brif hyfforddwr ar y lefel rhyngwladol.

Tebygolrwydd : 7/10

Enwau eraill?

Wedi i Matt Sherratt gadarnhau ei fod wedi ymrwymo i Rygbi Caerdydd mae'n ymddangos mai Mark Jones o'r Gweilch fyddai ar frig y rhestr o ran hyfforddwyr yng Nghymru.

Mae enw Steve Tandy wedi'i grybwyll hefyd ar ôl creu argraff yn yr Alban fel hyfforddwr amddiffynnol.

Treuliodd prif hyfforddwr yr Harlequins, Danny Wilson, sawl blwyddyn yng Nghymru gyda'r tîm dan 20 a chyfnodau gyda'r Dreigiau, y Scarlets a Chaerdydd, tra bod Shaun Edwards yn dal yn cael ei ganmol i'r uchelfannau fel rhan annatod o dîm hyfforddi Warren Gatland yn ystod 'yr oes aur'.

Tebygolrwydd: Annhebygol