Deugain mlynedd o yrru a chodi calonnau cleifion

 Brian O'Shaughnessy Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brian yn dyfalu ei fod wedi gwneud miloedd o siwrneiau ledled y gogledd dros y blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Brian O'Shaughnessy wedi bod yn gyrru cleifion i ac o'r ysbyty ers 40 mlynedd.

Mae'r cyn-bostman wrth ei fodd yn cael sgwrs â nhw, meddai, ac er ei fod yn gyrru miloedd o filltiroedd y flwyddyn, does ganddo ddim bwriad rhoi'r gorau iddi eto.

Natur ei swydd fel dyn post a'i wthiodd i gyfeiriad gwirfoddoli i Wasanaeth Ambiwlans Cymru, eglurodd.

Roedd yn dechrau gweithio am 04:00 bob bore, ac felly wedi gorffen ei ddiwrnod gwaith erbyn amser cinio, â'i brynhawniau yn rhydd.

"O'dd 'na berson yn gweithio efo'r ambiwlans o'dd yn deud 'ma nhw'n chwilio am bobl i fynd â phobl i ysbyty yn p'nawn'. Nes i holi o fanno a fan'na nes i ddechra efo'r peth."

Roedd hynny'n ôl yn 1984. Bellach mae'r rownd bost wedi dod i ben, ond mae'r gwirfoddoli yn parhau.

"Dwi'n siarad a chael bach o sbort, a maen nhw'n anghofio 'chydig amdano fo"

Brian yn sgwrsio ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru

Mae Brian yn dyfalu ei fod wedi gwneud miloedd o siwrneiau ledled y gogledd dros y blynyddoedd, gyda mwy nag un daith rai dyddiau.

Unwaith fe gludodd ymwelydd â'r ardal yn ôl adref i Plymouth, ar ôl iddi orfod treulio cyfnod yn yr ysbyty yng ngogledd Cymru.

"Weithia 'da chi'n mynd i Ddolgellau i ddod â rhywun i Fangor. Ella o Gaergybi i Fangor wedyn, neu ella bo' chi'n gorfod mynd o Fangor i Ysbyty Glan Clwyd. 'Da chi'm yn gwybod," meddai.

"'Dach chi'n codi cleifion fasa methu mynd i'r ysbyty fel arall o gwbl."

Sgwrs a jôc

Ond wrth gwrs, nid gyrru'n unig mae Brian yn ei wneud pan fo claf yn y car; mae hefyd yn cynnig sgwrs ac efallai ambell i jôc i godi calon.

"Bydda i'n sgwrsio efo pawb. Ella bod nhw'n amheus ofnadwy pan maen nhw'n mynd i'r ysbyty, a dim llawer o ddim byd i ddeu'tha fi. Wedyn ella bo' nhw di bod yn gweld arbenigwr a ma' nhw'n siarad wedyn; 'dach chi'n cael eu hanes nhw i gyd.

"Am bod lot ohonyn nhw mewn oed, dydyn nhw'm yn gweld llawer o bobl; ella mond fi ma' nhw'n gweld am ryw dri/pedwar diwrnod. Maen nhw'n hoffi siarad efo chdi.

"O'n i'n gweithio pan oedd Covid. O'dd 'na neb yn cael mynd allan, felly o'dda nhw'm yn gweld neb. Wedyn o'dda nhw'n falch o gal siarad efo chi."

Mae'r cleifion sy'n cael pas i gael triniaethau canser yn agos at galon Brian, gan ei fod yn gallu uniaethu gyda nhw, a rhannu ei brofiadau personol ei hun, eglurai.

"Dwi wedi bod trwy ganser fy hun, wedyn o'dd gynno fi syniad be' o'dda nhw'n 'neud os oeddech chi'n cael rhywun oedd yn mynd am y tro cynta.

"O'n i'n deud - 'sgynnoch chi datŵ? Nagoes? Wel bydd gynnoch chi datŵ yn dod o'ma heddiw!', sef y marciau pen pin ma'r triniaeth yn mynd mewn iddyn nhw. Fydda i'n cael sbort bach efo nhw.

"I rai pobl, mae'n anodd iddyn nhw ddelio efo fo, so dwi'n siarad a chael bach o sbort, a maen nhw'n anghofio 'chydig amdano fo."

Cannoedd ar filoedd o filltiroedd

Y llynedd gyrrodd wirfoddolwyr i'r Gwasanaeth Ambiwlans bron i 45,000 o siwrneiau ledled Cymru fel rhan o'r gwasanaeth cludo cleifion.

Mae'r teithiau i gyd yn digwydd yn eu ceir eu hunain, felly does dim syndod fod Brian – sydd wedi hen arfer gyrru, gan ei fod hefyd yn gyrru tacsi yng Nghaernarfon – yn cymryd gofal da o'i geir.

"Ma'r car yma gynna fi rŵan wedi 'neud 300,000. O'dd y car arall cyn hwn wedi 'neud hanner miliwn, a ma' hwnnw'n dal i fynd ar y lôn. Fydda i'n trio ngorau i edrych ar eu hola nhw."

Felly ar ôl cannoedd ar filoedd o filltiroedd a 40 mlynedd o wasanaeth i'r gymuned, ydi Brian wedi meddwl rhoi'r holl yrru tu ôl iddo a chymryd seibiant?

"Dwi'n hoffi 'neud o. Dwi'n berson sydd wedi gweithio erioed, ac on the go drwy'r amser yn gneud rhywbeth. Dwi'm yn berson sy'n mynd i ista'n tŷ yn 'neud dim.

"Mi wna i o tan fedra i."

Pynciau cysylltiedig