Cogydd seren Michelin a'r 'cynhwysion gorau yn y byd'

Tom WatersFfynhonnell y llun, Will Barker
Disgrifiad o’r llun,

Tom Waters

  • Cyhoeddwyd

"Mae gennym ni'r cynhwysion gorau yn y byd yng Nghymru."

Wedi iddo 'wireddu breuddwyd' ym mis Chwefror 2025 drwy ennill y seren Michelin cyntaf i fwyty yng Nghaerdydd, mae Tom Waters yn talu teyrnged i'r cynhwysion Cymreig sy'n ei ysbrydoli ac sy'n gyfrifol am ei lwyddiant.

Dywedodd y cogydd am ei fwyty, Gorse, mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Ni'n cymryd cynhwysion hollol anhygoel o Gymru a dydyn ni ddim yn newid nhw'n ormodol.

"Ni'n gadael i'r cynhwysion i ddweud y stori – cynhwysion gorau Cymru fel cig oen a chaws.

"Y prif beth i ni yw cael y cynhwysion yma. Mae pobl yn dueddol o orgymhlethu pethau ond ni'n cadw popeth yn eitha' syml."

Gwreiddiau

Gan ei fod wedi ei fagu yng Nghaerdydd, roedd ennill y seren Michelin gyntaf i'r brifddinas yn anrhydedd arbennig, meddai'r cogydd sydd yn ei 30au cynnar: "Mae'n gwireddu breuddwyd i fi – byddwn i'n dweud celwydd os fydden i'n dweud fod e ddim ar fy radar, o'n i bob amser wedi eisiau bod y cyntaf.

"Ond doeddwn i ddim yn disgwyl iddo ddigwydd eleni.

"Mae lot o waith caled wedi mynd mewn iddo fe. Oedden ni'n gwybod bod ni'n gwneud rhywbeth arbennig a gwreiddiol iawn ond dwi wedi synnu fod y seren Michelin wedi dod mor fuan, dim ond wyth mis ar ôl agor.

"Mae'n gyflawniad a hanner a ni'n hapus iawn amdano."

bara brith gyda chaws Perl Wen a truffles CymreigFfynhonnell y llun, Will Barker
Disgrifiad o’r llun,

Bara brith gyda chaws Perl Wen a truffles Cymreig

Cynhwysion

Ymhlith hoff gynhwysion Tom mae gwymon o Sir Benfro, lafwr yn ogystal â chaws o'r Gŵyr.

Meddai: "Mae gan y cynhwysion yma i gyd gysylltiad unigryw gyda chyfnod a lleoliad yng Nghymru ac mae'r bwydydd ni wedi defnyddio'n hanesyddol wrth goginio fel cenedl yn wir ysbrydoli fi.

"Nid bod yn slafaidd i fwydydd traddodiadol ond defnyddio'r un cynhwysion mewn ffordd modern."

Tîm bach sy'n gyfrifol am lwyddiant y bwyty gyda Tom ac un arall yn coginio yno, sy' wedi arwain at 'oriau hir a gwaith caled', fel mae'n dweud, ond mae'n gobeithio penodi mwy o staff ar ôl ei lwyddiant diweddar.

Felly ydy Caerdydd yn lleoliad da i ddenu pobl sy'n caru bwyd?

Meddai Tom: "Ni o hyd wedi bod eisiau symud yn ôl i Gymru ar ôl gweithio i ffwrdd yn Llundain am amser hir.

"Ni'n caru bod adref."

Mae'r bwyty yn denu nifer o 'dwristiaid bwyd' ac mi fydd y seren Michelin yn ysbarduno mwy o bobl i'r bwyty gyda Tom yn cydnabod nad oes bwrdd ar gael yn Gorse nes ddiwedd Ebrill.

Mae'r twristiaid bwyd hyn hefyd yn cael eu denu at fwyty James Sommerin, Home ym Mhenarth, Beach House yn y Gŵyr ac Ynyshir ym Machynlleth, meddai Tom ac mae'n falch iawn o weld twristiaeth bwyd yn denu pobl i Gymru.

Hoff fwyd

Llymru, 'hoff fwyd' Tom ar hyn o brydFfynhonnell y llun, Will Barker
Disgrifiad o’r llun,

Llymru, 'hoff fwyd' Tom ar hyn o bryd

Meddai Tom: "Ar y funud fy hoff fwyd yw llymru sy'n sbin ar bryd traddodiadol Cymreig sef ceirch mewn llaeth ond gyda'r plisg yn y llaeth bron fel gwead blancmange a gyda jam mafon.

"Mae'n rhywbeth fyddai ein tad-cu a'n mamgu wedi bod yn fwy cyfarwydd gyda ond mae'r pethau 'ma wedi mynd ar goll o genhedlaeth i genhedlaeth.

"Mae ail-gyflwyno'r prydiau traddodiadol yma'n ran o beth ni'n 'neud – un arall sy' gyda ni yw bara brith gyda chaws Perl Wen a truffles Cymreig.

"Mae lot o fy ysbrydoliaeth yn dod o hen gynhwysion oedden ni'n arfer defnyddio o hyd.

"Roedd i gyd am oroesi. Ni wastad wedi cael diwydiant llaeth mawr yng Nghymru – mae gennym ni'r llaeth yma i gyd, sut ydy ni'n gallu ei gadw fel bod ni'n gallu goroesi a chreu rhywbeth arbennig gyda fe? Oedden nhw'n glyfar iawn, ein cyndeidiau."

Felly beth nesaf i'r cogydd ifanc?

Meddai: "Cario mlaen i wneud beth ni'n gwneud a gwella bob dydd – dwi'n gredwr cryf mewn proses, nid canlyniad, a mireinio beth ni'n 'neud o ddydd i ddydd, beth bynnag sy'n digwydd.

"Does dim pen draw i beth ni eisiau gwneud a does dim rheswm allwn ni ddim fynd ymlaen i gael dwy seren Michelin a dod yn un o fwytai gorau Prydain."

Pynciau cysylltiedig