3 Llun: Lluniau pwysicaf Linda Griffiths

- Cyhoeddwyd
Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y gantores gwerin ac aelod o'r grŵp Plethyn sydd hefyd yn cyflwyno rhaglen ar ddyddiau Sul ar BBC Radio Cymru, Linda Griffiths, sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.

Linda yn bum mlwydd oed yn Ysgol Gynradd Pontrobert
Fi yn Ysgol Gynradd Pontrobert. Ro'n i'n bump oed pan dynnwyd y llun, a dyma'r llun cyntaf erioed a dynnwyd ohona i!
Y rheswm? O'n i'n rhedeg i ffwrdd bob tro o'n i'n gweld camera mae'n debyg.
Dwi ddim yn siŵr sut lwyddais i i neud hynny cyn i fi ddechrau cerdded chwaith!
Pan o'n i'n gadael Ysgol Pontrobert yn 1969, rhyw 19 o blant oedd yn yr ysgol a dim ond tri ohonon ni oedd yn siarad Cymraeg.
Erbyn heddiw mae'n ysgol cyfrwng Cymraeg fyrlymus efo dros 60 o ddisgyblion!

Linda a'i thair wyres fach
Does 'na ddim byd yn cymharu efo'r cyffro o groesawu aelodau bach newydd i'r teulu.
Mae gen i dair wyres erbyn hyn – Wini, Besi a Nanw - ac mi fydd 'na aelod bach arall yn ymuno efo'r teulu yn fuan iawn!
Mae'n gymaint o hwyl. A cyn ichi ofyn, fel mae pawb yn tueddu i neud - 'Ai Nain neu Mam-gu wyt ti?' 'Dim un o'r ddau' yw'r ateb - Nins ydw i, Nins lwcus iawn iawn!

Hilda a Twm-Twm y moch
Dyma Hilda a Twm-Twm yn aros am eu swper, dau fochyn bach kune-kune ges i'n anrheg gan fy merched y Nadolig ar ôl inni golli Mam/Nain – cymeriadau bach doniol ac annwyl dros ben.
Roedd y merched yn gwybod yn iawn sut i godi fy nghalon!
Magi, fy nghaseg, sydd yn y cefndir. Dydy penwythnos gartref ddim yn gyflawn heb fynd allan ar Magi am awr neu ddwy ar fore Sadwrn.
Dwi'n caru anifeiliaid ac allan yn yr awyr agored dwi hapusaf.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Ionawr