'Y celfyddydau'n haeddu'r un statws ag iechyd ac addysg'

Mae Gwyn Hughes Jones wedi perfformio yn rhai o dai opera mwya'r byd yn ystod ei yrfa
- Cyhoeddwyd
Dylai'r celfyddydau gael eu hystyried gyda'r un statws ag iechyd ac addysg, yn ôl un o brif denoriaid operatig rhyngwladol Cymru.
Dywedodd Gwyn Hughes Jones bod mudiadau'n "ymladd fel cŵn yn y stryd dros damaid bach o arian".
Er nad yw hynny'n "anghyfarwydd", a phobl wedi gorfod gwneud hynny "ers degawdau", dywedodd bod toriadau i'r celfyddydau yn "colli be' sy' wedi ei ddefnyddio i gadw ein hiaith a'n hunaniaeth yn fyw".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £4.4m ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yn sgil yr "heriau sy'n wynebu llawer o'n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol", gan ddweud bod hynny'n golygu y bydd y sector yn derbyn 8.5% yn fwy na chyllideb y llynedd.
Colli rhywbeth sy'n gwella bywydau
Yn ddiweddar roedd rhybudd bod Cymru'n gwario llai ar ddiwylliant na'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn dilyn "degawd o doriadau".
Mae prif weithredwr Cyngor y Celfyddydau hefyd wedi rhybuddio y gallai'r sector proffesiynol "ddiflannu", ac un o sêr mwyaf Cymru'n amau a fydd y maes yn goroesi rhagor o doriadau.
Gwrthod hynny mae Llywodraeth Cymru, ond mae Gwyn Hughes Jones yn galw am ystyried y celfyddydau fel rhywbeth all helpu i gyfoethogi bywydau pobl a helpu i wella safon bywyd ac iechyd.
"'Da ni wedi ein perswadio i edrych ar y celfyddydau fel rhywbeth ychwanegol, fel perk os mynnwch chi.
"'Da ni ddim yn ei weld fel rhywbeth sy'n angenrheidiol i ni yn ein bywydau bob dydd."

Mae Gwyn Hughes Jones yn dweud bod diffyg arian yn arwain at fudiadau'n newid eu harlwy er mwyn ceisio bod yn "ffasiynol"
Dywed Mr Hughes Jones, sydd wedi canu yn rhai o brif dai opera'r byd gan gynnwys Covent Garden yn Llundain a'r Met yn Efrog Newydd, fod diwylliant wedi bod yn allweddol hefyd wrth warchod ein hiaith.
"'Da ni'n siarad am y sefyllfa lle ma' pobl yn cael eu hamddifadu o beth sydd yn agor eu meddyliau, yn g'neud iddyn nhw ofyn cwestiynau ac yn g'neud safon eu bywyd yn well.
"Ond hefyd 'da ni'n colli be' sy' wedi ei ddefnyddio i gadw ein hiaith a'n hunaniaeth yn fyw."
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd5 Medi 2024
Gyda chwmnïau, mudiadau ac unigolion yn y byd celfyddydol yn gorfod "ymladd fel cŵn yn y stryd dros damaid bach o arian", mae'n teimlo fod lle i ailedrych ar opsiynau a ffynhonellau arian, ac adeiladu pontydd gyda'r sector breifat.
"Edrychwch ar ddwy enghraifft ddiweddar yng Nghymru", meddai.
"I ddechrau Michael Sheen yr actor yn cymryd ar ei gefn ei hun i sefydlu cwmni theatr."
Sefydlodd Sheen y cwmni i lenwi'r bwlch ar ôl i National Theatre Wales ddod i ben, a hynny ar ôl colli ei chefnogaeth ariannol.
Ychwanegodd Mr Hughes Jones: "Edrychwch hefyd ar sefyllfa Clwb Pêl-droed Wrecsam, a'r arian preifat fanna wedi gweddnewid nid yn unig y clwb ond hefyd yr ardal."

Mae'r canwr sy'n dod yn wreiddiol o Lanbedrgoch, Ynys Môn, hefyd yn poeni bod y cwestiwn am fuddsoddi yn golygu bod newidiadau'n cael eu cyflwyno gan sefydliadau ym myd y celfyddydau er mwyn bod yn ffasiynol.
"Y peryg mwya' yw bod y sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn newid i siwtio y cyfnod, yn lle bod rhywun yna yn sylweddoli bod salwch yna a bod rhaid iddo gael ei drin, a rhaid i rywun 'neud rwbeth am y peth.
"Nid trwy newid er mwyn rhoi platfform i rwbeth sy' ddim yn safonol neu yn ffasiynol ydy'r ateb.
"Yn y diwedd be' gei 'di ydi rwbeth sy' ddim yn safonol a ddim yn Gymraeg na Chymreig chwaith.
"Ma' rhaid i ni ddathlu a rhoi llwyfan i be' da ni'n neud yn ein ffordd ni, hefo ein llais ni."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol bod eu rhaglen yn cael ei "lywio gan ein gwirfoddolwyr lleol a chenedlaethol gyda blas lleol ar yr arlwy yn flynyddol", sy'n "hollbwysig i sicrhau fod ein rhaglen yn cynrychioli pawb, ac o ddiddordeb i'n cynulleidfa leol a chenedlaethol".
'Mae'r niwed wedi digwydd i'r sector'
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, fod yr ymrwymiad gan y llywodraeth yn "gam cadarnhaol" ond bod niwed eisoes wedi ei wneud i'r sector.

Mae niwed eisoes wedi digwydd yn y sector, meddai Steffan Donnelly
"Mae'r niwed wedi digwydd i'r sector, mae'r amgylchedd i artistiaid a sefydliadau yn fwy heriol fyth, yn fwy ansicr" gan ddweud fod nifer o weithwyr llawrydd wedi gadael y proffesiwn.
"Mewn termau real mae 'na dal doriad yn y sector," meddai.
Er ei fod yn cydnabod ei fod yn edrych ymlaen at "weld beth fydd y camau nesaf" dywedodd fod 'na "dal dipyn o waith i wneud" i'r sector.
Dywedodd fod y celfyddydau yn cyfrannu'n helaeth at ddiwylliant: "Ar sawl lefel mae'r celfyddydau yn strategol bwysig, mae 'na intrinsic value a dwi'n meddwl fod o'n bwysig i gymdeithas am y rhesymau hynny".
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Celfyddydau yn y Senedd nad yw'r celfyddydau'n "bethau moethus i'w mwynhau mewn cyfnodau o ddigon", ond yn rhan o "beth sy'n gwneud bywyd yn werth byw".
Ychwanegodd Delyth Jewell, sy'n AS Plaid Cymru, ei bod yn croesawu'r arian, ond bod "angen bod yn glir, roedd gwir angen hyn yn dilyn degawd o gwymp mewn buddsoddiad".
'Cam sylweddol ymlaen'
Wrth gyhoeddi'r £4.4m y flwyddyn ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth, Jack Sargeant, bod y "buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru", ac yn .
"Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sy'n wynebu llawer o'n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol ac mae'r gyllideb hon yn gam sylweddol ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd, ac yn gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol."
Ychwanegodd y byddai'r arian yn "helpu i ddiogelu a gwarchod diwylliant, celfyddydau, byd cyhoeddi a chwaraeon llawr gwlad Cymru, gan gefnogi eu rôl hanfodol mewn addysg, ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth".
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi croesawu'r arian ychwanegol, gan ddweud y bydd yn "edrych yn fanwl ar ein cyllideb flynyddol i weld sut orau i ariannu'r sector" o ganlyniad.
Ychwanegodd y prif weithredwr Dafydd Rhys y byddai'n "gwella gwytnwch" y cyngor, ac yn "fodd inni gynnig rhagor o arian a chyfleoedd i'r sefydliadau celfyddydol a'r artistiaid lu sy'n creu Cymru o ddiwylliant ffres a chymunedau bywiog".