Dychwelyd i Gymru ar ôl degawd yng Ngwlad Thai
- Cyhoeddwyd
Mae Annest Williams sy'n wreiddiol o Drefor, Gwynedd, yn symud yn ôl i Gymru gyda'i theulu ifanc ar ôl dros ddeng mlynedd yn byw yng Ngwlad Thai.
A hithau ar fin gwneud y daith hir yn ôl i'w mamwlad, cafodd Cymru Fyw air sydyn gyda Annest am ei stori hi.

Saman, Annest ac Arwyn
Yn fuan ar ôl iddi raddio mewn Gwyddoniaeth Fforensig, roedd Annest yn cael trafferth dod o hyd i swydd. Wedi cael digon ar ymgeisio am swyddi'n agos at adref, fe ymgeisodd am swydd yng Ngwlad Thai fel athrawes Saesneg.
"Mi wnes i'r cwrs dysgu yn Bangkok a wedyn 'naethon nhw roi fi yn y de mewn ysgol lywodraethol. O'n i wrth fy modd efo'r ysgol, a doedd y plant ddim yn siarad lot o Saesneg ond oedden nhw i gyd yn neis.
"Maen nhw'n galw Gwlad Thai yn the land of smiles, ac mae o'n wir. Os 'dach hi'n cerdded a 'dach chi'n gweld rhywun mae pawb yn gwenu arnach hi."

Annest a'i dosbarth
Pan ddaeth cytundeb Annest i ben a dim sôn am ei adnewyddu roedd hi'n awyddus iawn i aros. Fe bostiodd neges i dudalen Facebook y gymuned yn dweud ei bod hi'n chwilio am swydd ac a oedd yna unrhyw ysgol yn chwilio am athrawon Saesneg. Cysylltodd un ysgol â hi, ac fe gafodd swydd.
"Mae hi'r ysgol fwya' yn y sir, ac mae hi'n ysgol hynod o lwyddiannus yn y wlad. Mae hi yn neg uchaf ysgolion llwyodraethol yn y wlad – do'n i'm yn gwybod ar yr adeg pan es i amdani."

Annest gyda chyd-athrawon
Dros ddegawd yn ddiweddarach, mae Annest dal i fyw yn sir a dinas Nakhon Si Thammarat gyda'i theulu, Saman ei gŵr, ac Arwyn eu mab bach 14 mis oed.
"Nes i ddisgyn mewn cariad efo'r lle, a dyna sut nes i aros yma mor hir. Dros y blynyddoedd mi 'naeth fy swydd i newid o fod yn dysgu jest siarad a chyfathrebu yn Saesneg, i wedyn ddarllen Saesneg. A rwan, mae o wedi mynd i fod yn dysgu amdan arholiadau – English Testing dan ni'n alw fo, sef yr arholiad llywodraethol maen nhw'n 'neud."

Nôl i Gymru
Ond, fis Mawrth ar ôl bron i 12 mlynedd yno mae Annest yn dychwelyd i Gymru gyda Saman ac Arwyn.
"Dw i bob amser wedi cael rhywbeth yn tynnu fi'n ôl tuag adra, ac mae'r mab wedi gwneud hynny'n glir iawn i mi. Dw i isio iddo fo dyfu fyny yn dysgu Cymraeg a chael y profiad ges i.
"Mae 'na ddisgwyliad mawr o blant yma yn Ngwlad Thai. Mae'r plant yn gweithio'n galed. Mae o fymryn bach yn overwhelming i fod yn hollol onest, a dwi'm yn gweld o yn siwtio fy mab i.
"'Swn i'n licio fo gael yr addysg sydd ar gael ym Mhrydain, sydd yn addysg sefydlog iawn. Mae'n addysg dwi wedi'i phrofi, a dwi 'di cael addysg dda yn fy mywyd."

Nain a Taid yn ar un o'u tripiau i weld Arwyn
Cafodd Annest ei magu yn Nhrefor, Gwynedd ac mae hi'n ysu i'w mab gael yr un profiadau â gafodd hi, meddai.
"Dwi wedi cael cyfleoedd da iawn yn yng Nghymru, wedyn dwi isio fo gael yr un profiad, cael profiad o ddiwylliant Cymru. Cael gweld lle mae ei wreiddiau o, 'de?"
Ond mae mwy na dim ond addysg a diwylliant yn ei denu hi'n ôl i Gymru, sef ei theulu.
"Mae fy rhieni yn methu Arwyn. Dw i 'di bod yma ddeg mlynedd, a dw i'n meddwl mai rhyw bump gwaith maen nhw wedi bod i 'ngweld i, a mae nhw wedi dod i'w weld o ryw ddwy dair gwaith mewn dim ond blwyddyn! Maen nhw wir isio bod yn rhan o'i fywyd o."
"Mae 'mrodyr a chwiorydd yn dechra' teulu eu hunain rŵan hefyd, wedyn dwi isio bod yna i gefnogi nhw yn enwedig achos babis cynta' ydyn nhw."

Ond mae un peth wedi bod yn ei dal yn ôl rhag dod cyn hyn, a hynny oedd costau. Roedden nhw eisoes wedi rhoi cais mewn am fisa i Saman, gŵr Annest, pan welodd mam Annest hysbyseb am un o brosiectau'r rhaglen Arfor, sef Llwyddo'n Lleol 2050 ac anogodd ei merch i weld "a fysa 'na help ar gael".

Annest yn un o'i dosbarthiadau Saesneg
Eglurodd Annest:
"Un peth sydd wedi ein poeni ni am ddod yn ôl ydi'r costau. Mae'r costau yn anhygoel yma; 'da chi angen prynu tocyn awyren, angen shifftio gwerth 11 mlynedd o stwff, a wedyn symud efo babi.
"Mae'r fenter yma jyst wedi rhoi tawelwch meddwl i ni. Mae'r ffaith bo' nhw isio ein cefnogi ni… yn enwedig help yn chwilio am swyddi hefyd fel pobl yn symud i'r ardal. Maen nhw 'di sôn ella 'san nhw'n gallu rhoi rhyw fath o gefnogaeth i helpu efo hynny.
"Mae'r grant wedi rhoi'r brwdfrydedd ein bod ni'n mynd i allu gwneud pethau, ddim jyst 'dod adra', ond bo' ni'n mynd i allu helpu efo talu am bethau, ac enjoio pethau a bod fy mab i'n cael y fagwraeth orau bosib."

Mae Annest yn edrych ymlaen i Arwyn gael treulio llawer mwy o amser efo'i nain
Bwriad y teulu bach yw dychwelyd i Drefor at rieni Annest ddiwedd mis Mawrth. Mae Annest yn gobeithio mynd i brifysgol Bangor i hyfforddi i fod yn athrawes Wyddoniaeth gan ddychwelyd at ei maes gwreiddiol, tra bydd Saman, yn aros adref gydag Arwyn tra'n rhedeg ei fusnes o adref.
"Mae cenedlaethau o 'nheulu fi wedi eu magu yn Nhrefor, wedyn mae o'n lle agos i'r galon yn sicr."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2023