Clybiau rygbi'n wynebu colli miloedd yn sgil diffyg galw am docynnau

Mae sawl clwb wedi dweud bod gwerthu tocynnau i gemau'r Chwe Gwlad yn heriol
- Cyhoeddwyd
Mae clybiau rygbi llawr gwlad yn dweud eu bod yn wynebu colli miloedd o bunnoedd gan fod y galw am docynnau i gemau rhyngwladol wedi gostwng.
Ar drothwy gêm gartref gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn Iwerddon, mae sawl clwb wedi dweud bod gwerthu tocynnau i'r gemau'n anodd.
Mae gêm Cymru yn erbyn Iwerddon fel arfer yn un poblogaidd iawn ymysg cefnogwyr, gyda thocynnau yn aml yn anodd eu cael.
Ond yn ôl clybiau rygbi mae gwerthu tocynnau sydd wedi'u harchebu ymlaen llaw yn "broblem".
Canlyniadau ar y cae a phrisiau'r tocynnau yw'r prif resymau mae clybiau wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn cael trafferth eu gwerthu.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) fod unrhyw glybiau sydd â thocynnau yn cael eu hannog yn gryf i wneud defnydd o'n partner cyfnewid tocynnau Seat Unique gan ychwanegu bod y ddwy gêm gartref yn erbyn Lloegr ac Iwerddon wedi gwerthu allan ym mis Ionawr.

Mae clybiau'n gorfod archebu tocynnau gan URC ymlaen llaw, ac yn talu amdanynt os yn llwyddo i'w gwerthu ai peidio
Mae clybiau rygbi yn gwneud cais i URC am gynifer o docynnau ag y maen nhw'n meddwl y gallant eu gwerthu, ac yn gorfod talu amdanynt os ydyn nhw'n llwyddo i'w gwerthu i gyd ai peidio.
Mae Clwb Rygbi Castell-nedd wedi gweld gwahaniaeth mawr yn nifer y tocynnau sy'n cael eu prynu ar gyfer y Chwe Gwlad.
Yn ysgrifennydd tocynnau i Glwb Rygbi Castell-nedd, mae Lee Llewellyn yn dweud mai dyma'r flwyddyn waethaf "mae erioed wedi gweld" o ran gwerthiant.
"Dyma'r gêm gartref gyntaf felly byddech chi'n meddwl y byddai'n hawdd gwerthu'r tocynnau", meddai.
Dywedodd Lee mai'r broblem fwyaf yw bod yn rhaid i glybiau archebu'r tocynnau erbyn mis Medi'r flwyddyn flaenorol, sy'n golygu eu bod nhw'n "sownd" gyda'r nifer gwreiddiol.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2022
Mae Lee hefyd yn helpu i redeg tudalen Facebook poblogaidd sy'n helpu cefnogwyr i brynu a gwerthu tocynnau.
Cafodd y dudalen ei sefydlu bum mlynedd yn ôl, ac mae'n dweud bod y mater yn amlwg iawn yn y grŵp eleni, gan fod clybiau'n dechrau sôn am yr un problemau.
"Mae'n broblem amlwg iawn nawr", meddai.

Mae'r broblem yn amlwg iawn eleni, meddai Lee Llewellyn
Ychwanegodd ei fod wedi llwyddo i werthu dyraniad y clwb ar gyfer gêm Iwerddon, ond mae ganddo docynnau Lloegr ar gael o hyd.
"Mae'r pris yn rhywbeth y mae pobl yn gyson yn ymwybodol ohono, y naid o'r rhataf i'r un nesaf i fyny yw'r hyn dwi wedi sylwi arno.
"Fe wnaethon ni archebu tua 400, mae tua 170 ar ôl ar gyfer gêm Lloegr.
"Mae pobl yn aros tan yr wythnos hon i geisio cael rhai tocynnau rhatach", esboniodd.
'Clwb i wneud colled o £1,500 eleni'
Mike Scourfield yw cadeirydd Harlequins Doc Penfro, mae wedi bod yn gyfrifol am werthu tocynnau ar ran y clwb ers 15 mlynedd.
Mae Mike hefyd wedi gweld cynnydd yn y diffyg galw am docynnau.
"Mae gemau Iwerddon a Lloegr wastad wedi bod yn hawdd i'w gwerthu", meddai ond ychwanegodd fod prisiau cynyddol yn rhwystro pobl.
Dywedodd nad yw gorfod gwneud cais am docynnau'n gynnar yn helpu, ond ei fod yn deall o safbwynt busnes.
"Mae'n rhwystredig, mae'r pythefnos diwethaf wedi bod yn hunllef yn ceisio peidio â cholli arian fy nghlwb" ychwanegodd.
Dywedodd Mike fod ei glwb yn wynebu colled o tua £1,500, ar ôl gorfod cwtogi ar eu tocynnau i sicrhau eu bod yn gwneud o leiaf peth o'r arian yn ôl.

Fe gollodd Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Principality yn 2023
Paul Driscoll yw ysgrifennydd tocynnau Harlequins Caerdydd, sydd wedi llwyddo i werthu eu dyraniad ar gyfer y gêm y penwythnos hwn.
Ondmae'n dweud ei fod wedi bod yn broblem yn y gorffennol.
"Cawsom ein bwrw yn galed y llynedd ar gêm Sul y Mamau yn erbyn Ffrainc, collodd y clwb tua £2,000 oherwydd eu bod wedi gwerthu am bris rhatach."
Ychwanegodd Paul fod yr holl "risg" ar y clwb i sicrhau eu bod yn gallu gwerthu tocynnau am bris llawn, ond ychwanegodd y byddai cynllun fyddai'n galluogi clybiau i anfon tocynnau yn ôl i URC yn ddefnyddiol.
"Petai clybiau yn gallu profi eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i werthu'r tocynnau, ac yna 3-4 wythnos cyn y gêm gallu dychwelyd i URC i werthu trwy sianeli swyddogol."
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Mae unrhyw glybiau sydd â thocynnau yn cael eu hannog yn gryf i wneud defnydd o'n partner cyfnewid tocynnau Seat Unique.
"Rydym wedi gwerthu dros 140,000 o docynnau ar draws ein dwy gêm gartref yn erbyn Lloegr ac Iwerddon ac wedi cyhoeddi eu bod wedi gwerthu allan ar gyfer y ddwy gêm ym mis Ionawr."
Ychwanegwyd bod gan y clybiau sy'n aelodau hawl gyfansoddiadol i gael mynediad at docynnau cyn gwerthiant cyhoeddus.
"Mae'n bwysig nodi nad oes angen iddynt brynu unrhyw docynnau o gwbl, ond rydym yn deall y gall amgylchiadau newid i rai pobl ac rydym wedi ymrwymo i helpu cyfnewidfeydd tocynnau lle bo hynny'n bosibl trwy ein partneriaeth â Seat Unique."