Nifer hunanladdiadau'n fwy na marwolaethau Afghanistan
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen Panorama'n dweud bod nifer hunanladdiadau milwyr a chyn-filwyr o Brydain y llynedd yn fwy na marwolaethau milwyr yn Afghanistan.
Cafodd ymchwilwyr y rhaglen wybod bod 21 o filwyr a 29 o gyn-filwyr wedi lladd eu hunain yn 2012.
Yn Afghanistan yn yr un cyfnod bu farw 44 o filwyr.
Tra bod teuluoedd rhai o'r milwyr wedi honni nad oedd digon o gefnogaeth, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod pob hunanladdiad yn "drychineb".
Ffrwydrad
Un milwr laddodd ei hun oedd Is-Sarjant Dan Collins o Tiers Cross ger Hwlffordd, Sir Benfro, oedd wedi bod yn nhalaith Helmand yn Afghanistan yn haf 2009.
Roedd yn 29 oed ac roedd ei ffrind, Is-Gorporal Dane Elson, wedi ei ladd oherwydd ffrwydrad ychydig o lathenni i ffwrdd.
Dywedodd ei fam, Deana Collins, fod ei ymddygiad wedi newid.
"Dwi'n cofio'r alwad ffôn pan ddywedodd: 'Mae'r lle hwn yn uffern ar y ddaear ... dwi eise dianc'."
Ar ôl chwe mis daeth yr is-sarjant adref.
Dywedodd ei gariad Vicky Roach: "Yr hunllefe oedd y pethe mwya' ... roedd yn amlwg ei fod yn ailfyw popeth."
Ailafael
Ar ôl 10 mis o driniaeth dywedodd y Fyddin y gallai'r milwr ailafael yn ei ddyletswyddau'n fuan.
O fewn tri mis ceisiodd ladd ei hun ddwywaith.
"Roeddwn i eisie ei helpu ond ddim yn siwr beth i' 'neud," meddai ei gariad.
"Ond roeddwn i'n gorfod gofyn iddo fe adel."
Nos Galan gadawodd y milwr ei thŷ, gwisgo ei lifrai a gyrru i Fynyddoedd y Preseli.
Recordiodd fideo ffarwel ar ei ffôn cyn crogi ei hunan.
Roedd angladd anrhydedd milwrol llawn yn Eglwys y Santes Fair, Aberteifi.
Yn is
Cafwyd hyd i'r ffigwr o 21 (y milwyr laddodd eu hunain) oherwydd cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Dywedodd y weinyddiaeth fod cyfraddau hunanladdiad ac Anhwylder Straen Wedi Trawma'n is ymhlith milwyr na rhai nad oedd yn y lluoedd arfog.
Yn wahanol i Lywodraeth America, dyw Llywodraeth Prydain ddim yn cofnodi cyfradd hunanladdiad cyn-filwyr.
Ond daeth ymchwilwyr o hyd i'r wybodaeth ar ôl ysgrifennu at grwneriaid a chwilio am erthyglau papur newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012