'Camgymeriadau' mewn achos ond dim camweddau bwriadol

  • Cyhoeddwyd
Lynette WhiteFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lynette White ei thrywanu yn 1988 ar ddydd Sant Ffolant

Mae dau adroddiad wedi eu cyhoeddi ynghylch diwedd achos yn erbyn 8 cyn blismon a dau arall oedd yn gysylltiedig â'r ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd yn 1988.

Yn 1990 cafodd tri dyn, Steven Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris, eu carcharu ar gam am y llofruddiaeth.

Cafodd y dyfarniad ei ddiddymu ddwy flynedd yn ddiweddarach yn dilyn apêl.

Dros ddegawd yn ddiweddarach plediodd dyn o'r enw Jeffrey Gafoor yn euog i'r llofruddiaeth.

Cafodd Gafoor ei garcharu am oes yn 2003.

Yn 2011 cafwyd wyth cyn blismon a dau arall yn ddieuog o wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn perthynas â'r achos gwreiddiol ar ôl i'r llys glywed fod tystiolaeth wedi ei ddinistrio.

Ddeufis yn ddiweddarach cafwyd hyd i'r dogfennau ym meddiant Heddlu De Cymru.

Adroddiad Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu

Mae adroddiad Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu sy'n ystyried y dogfennau 'coll' yn casglu na wnaeth plismyn orchymyn eu dinistrio, ond bod gwallau cofnodi gan yr heddlu yn 2009 wedi golygu ei bod yn anodd eu cael nôl allan o'r system pan oedd eu hangen.

Dywedodd y Comisiynydd Sarah Green: "Rydw i wedi casglu, ar sail mantoli tebygolrwydd, na wnaeth yr uwch swyddog ymchwilio, neu unrhyw swyddog arall erioed roi cyfarwyddyd i ddinistrio'r dogfennau.

"Mewn gwirionedd, mae cael hyd i'r dogfennau yn profi cywirdeb adroddiadau y swyddogion nad oedd y dogfennau wedi eu dinistrio.

"Ond fe wnaeth camgymeriadau gan swyddogion unigol mewn perthynas â derbyn, cofnodi a storio'r dogfennau olygu nad oedd modd cael hyd i'r dogfennau yn hawdd.

"Rydw i wedi casglu y dylid ystyried y camgymeriadau hyn yn faterion perfformiad ac rwyf wedi argymell y dylai tri swyddog dderbyn gweithred reoli ynghylch prosesau dadleniad priodol.

"Ond fe gytunais yn yr amgylchiadau - gan gynnwys y ffaith fod y camgymeriadau wedi eu gwneud yng nghyd-destun dros 800,000 o ddogfennau yr oedd angen eu prosesu - nad oeddent yn cyfiawnhau prosesau camymddwyn ffurfiol."

Adroddiad Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron

Casglodd adroddiad Arolygiaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yr erlyniad wedi mabwysiadu agwedd 'gul a gor ddadansoddol i ddadleniad" ac y dylai fod wedi rheoli agwedd yr amddiffyniad tuag at ddadleniad yn well.

Roedd hefyd yn awgrymu nad oedd gan y tîm o far-gyfreithwyr a weithiodd ar yr achos ddigon o brofiad ar y cyd ar gyfer achos a oedd "yn anodd iawn i'w erlyn".

Dywed y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus fod yr achos wedi arwain at ddiwygiadau sylfaenol i'r modd y mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â dadleniad dogfennau.

Ymateb Heddlu'r De

Mae Heddlu'r De wedi croesawu'r adroddiadau: "Mae'n glir o'r adroddiadau na fu yna gamymddwyn ar ran y swyddogion a'r erlynwyr a wnaeth, yn ddidwyll, gamgymeriad oedd yn adlewyrchu'r sialensiau ehangach oedd yn wynebu'r tîm erlyniad o'r dechrau.

"Wrth gwrs mae'r camgymeriadau yma yn siomedig gan ein bod yn gosod safonau uchel i'n hunain ac mi oedd yna oblygiadau arwyddocaol i'r achos o fudd cyhoeddus mawr.

"Er hynny dylai'r camgymeriadau gael eu gweld yng nghyd-destun achos erlyniad cymhleth dros ben oedd yn ymwneud â dros 800,000 o dudalennau o ddeunydd sydd yn mynd nôl bron i 25 mlynedd," meddai Peter Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu'r De.

Mae'n ychwanegu bod yr heddlu wedi gweddnewid y ffordd maent yn delio gydag achosion mawr fel hyn a'u bod wedi bod yn llwyddiannus yn ail edrych ar achosion o lofruddiaethau a throseddau eraill.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol