Achos Lynette White: Galw am ddileu dedfrydau
- Cyhoeddwyd
Mae tri thyst yn achos llofruddiaeth Lynette White, y cyfrannodd eu celwyddau at un o'r achosion mwya' o gamweinyddu cyfiawnder, am i'w dedfrydau gael eu dileu.
Daw hyn ar ôl i achos llys mwya' Prydain yn ymwneud â llygredd plismyn ddod i ben yn Abertawe ar ôl cost o £30 miliwn.
Roedd wyth o swyddogion yr heddlu wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac fe gafwyd hwy'n ddieuog ar ôl i'r barnwr gael gwybod bod tystiolaeth wedi ei dinistrio.
Ddau fis yn ddiweddarach cafwyd hyd i'r dogfennau ym meddiant Heddlu De Cymru.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Ar raglen BBC Cymru Week In Week Out nos Fawrth mae'r cyn-butain Angela Psaila yn sôn am y tro cyntaf mewn 24 blynedd ac yn egluro pam ei bod hi wedi dweud celwydd am ddynion dieuog yn yr achos llys gwreiddiol.
"Roeddwn i'n gwybod mai hwn oedd y peth anghywir, dweud celwydd ond dwi am i'r cyhoedd wybod beth ddigwyddodd ac nid fy mai hi oedd hyn."
Tystion bregus
Yn 2004 fe arweiniodd technoleg DNA arwain Heddlu De Cymru at wir lofrudd Ms White, Jeffrey Gafoor.
Fe gyfaddefodd yntau iddo ei thrywanu mewn ffrae am £30 Ddydd San Ffolant 1988.
Yn 2008 cafodd Angela Psaila ei charcharu am 18 mis am ddweud celwydd ar lw - yn ogystal â phutain arall, Leanne Vilday, a Mark Grommek oedd yn byw uwchben y fflat lle cafodd Ms White ei thrywanu dros 50 o weithiau.
Dywedodd tri thyst bregus fod swyddogion yr heddlu wedi eu bwlio i ddweud celwydd am Bump Gaerdydd, cariad Ms White Stephen Miller; Yusef Abdulahi; Tony Paris a'r cefndryd Ronnie a John Actie.
"Dwi'n teimlo yn ofnadwy am yr hyn ddigwyddodd," meddai Angela Psaila, "ond ar ddiwedd y dydd, roedd y cyfan allan o 'nwylo i.
"Doedd na ddim y gallwn ei wneud, dim.
"Roedden nhw'n rhoi cymaint o bwysau ar bobl, allwn ni ddim gwneud dim byd."
Mae'r Arglwydd Carlile QC, gynrychiolodd Leanne Vilday, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r ffaith fod yr achos llygredd wedi dod i ben.
"Dwi'n credu'n gryf mai'r unig ffordd i ddod â'r broses i ben yn gadarnhaol yw trwy gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn, ymchwiliad heb gyfyngiadau fel bod Heddlu De Cymru yn gallu symud ymlaen heb fod yr achos yn faich iddyn nhw."
£100 miliwn
Arweiniodd llofruddiaeth 1988 at dri achos llofruddiaeth, achos apêl, achos dweud celwydd ar lw a methiant achos llygredd.
Yr amcangyfrif yw y gallai'r trethdalwr dalu dros £100 miliwn erbyn diwedd yr holl achosion ac ymchwiliadau.
Mae Heddlu De Cymru yn wynebu achos newydd gan y dynion gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio Ms White a'r swyddogion sy'n gwadu eu fframio.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan, na allai drafod yr achos oherwydd bod ymchwiliadau yn cael eu cynnal, ymchwiliadau y mae'n eu cefnogi.
Mae Stephen Miller - sydd bellach yn byw yn Llundain - hefyd yn siarad am y tro cyntaf am ei fywyd yng nghwmni Ms White ac am y ffaith ei bod yn cael ei chofio am yr hyn wnaeth hi yn hytrach na'r gwir berson yr oedd hi.
'Yn warthus'
"Mae pawb yn gwybod ei bod yn butain ond chi ddim yn ei ddweud e drwy'r amser. Mae'n warthus, fe ddylai pobl fod â chywilydd.
"Roedd hi'n berson distaw.
"Roedd hi'n hoffi ffilmiau, yn mwynhau diod weithiau, smygu a phopeth y byddai person 20 oed yn ei wneud."
Dywedodd ei fod yn ddig nad oedd swyddogion heddlu wedi eu cyhuddo o unrhyw gam-weinyddu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Mae'r swyddogion gafodd eu cyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder yn mynnu o hyd eu bod yn ddieuog.
Week In Week Out ar BBC Un Cymru nos Fawrth am 10.35pm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2011