Adrannau brys o dan bwysau

  • Cyhoeddwyd
Adrannau brys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi annog pobl i beidio â mynd i'r unedau hyn oni bai bod gwirioneddol angen.

Mae unedau damweiniau ac achosion brys rhai ysbytai dan bwysau oherwydd pobl sy'n llosgi neu'n dioddef oherwydd sgileffeithiau'r haul.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey, wedi annog pobl i beidio â mynd i'r unedau hyn oni bai bod gwirioneddol angen.

"... mae'n bwysig bod y cyhoedd yn chwarae eu rhan wrth helpu'r gwasanaethau gofal brys ac ystyried a ddylen nhw gysylltu â Galw Iechyd Cymru neu fferyllydd," meddai.

Dywedodd Gwasanaeth Gwaed Cymru eu bod yn wynebu cyflenwadau isel am fod rhoddwyr yn mwynhau'r haul.

"Dydyn ni ddim yn eu beio nhw ond mae angen gwaed bob dydd," meddai'r llefarydd Kate Hammond.

Mae Ysbytai Gwynedd, Glan Clwyd a Bodelwyddan eisoes wedi cyhoeddi cyngor ar eu gwefannau, dolen allanol am eu bod nhw dan bwysau.

Dywedodd y tri fod mwy o gleifion yn diodde' o ddisychiad a llosgi yn yr haul.

Garddwyr

Yn y cyfamser, dywedodd Ysbyty Treforys ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont fod sawl llawdrinaeth wedi bod ar arddwyr oherwydd damweiniau'n ymwneud â pheiriannau torri porfa.

Hefyd, medden nhw, mae mwy o gleifion hŷn wedi torri eu cluniau a mwy o gerddwyr wedi anafu eu migyrnau.

Mae Dŵr Cymru a'r gwasanaethau brys wedi dweud na ddylai neb nofio mewn cronfeydd yn sgil damweiniau ym Mhontsticill a Chantref ger Merthyr Tudful.

"Gall nofio mewn cronfeydd fod yn beryglus iawn," meddai llefarydd.

Nos Fawrth bu farw dyn wedi iddo neidio i mewn i afon ger Wrecsam.

Mae ymchwiliad yn parhau wedi i ddau filwr farw ar Fannau Brycheiniog.