NFU: annog pobl i brynu cynnyrch o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg yn pori
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywydd NFU Cymru yn dweud y dylai pobl brynu cig sydd yn nes at adref

Ar drothwy Sioe Frenhinol Amaethyddol Llanelwedd mae Llywydd un o'r undebau ffermio yn dweud wrth bobl am brynu cynnyrch o Gymru.

Dywed Ed Bailey o NFU Cymru bod ei hymgyrch newydd yn targedu cwsmeriaid a bod angen i ffermwyr fanteisio ar y sgandal cig ceffyl diweddar i atgoffa pobl i brynu'n lleol:

"Mae ffermwyr Cymru yn glynu at rhai o'r safonau mwyaf llym sydd yn bodoli yn y byd. Mae'r sgandal cig ceffyl diweddar wedi dangos bod safonau'r un mor llym ddim wedi eu cynnal o anghenraid yn uwch i fyny yn y gadwyn gyflenwi.

"Y wers bwysig i gwsmeriaid yw bod cadwyn fyrrach yn lleihau'r siawns bod unrhyw beth yn mynd o'i le ac yn lleihau'r siawns o gael bwyd wedi eu heintio."

Er yn cydnabod na all ffermwyr yn y wlad yma ddarparu popeth ar gyfer y cwsmer heddiw mae'n dweud bod hi'n bwysig i bobl brynu bwyd gyda'r logo'r tractor coch arno. Mae'r logo yma yn golygu bod y bwyd neu'r ddiod safonol yn cael ei archwilio gan gorff annibynnol.

Prisiau llaeth

Yn y sioe'r llynedd prisiau llaeth oedd yn pryderu nifer yn y byd amaeth.

Roeddent yn dadlau na ddylai pris y llaeth ostwng fel yr oedd y cwmnïau sydd yn gwerthu'r ddiod yn bwriadu gwneud ar Awst y 1af yn 2012.

Bu protestiadau tu allan i brosesyddion llaeth yn Lloegr gyda rhai ffermwyr yn bygwth taflu llaeth i ffwrdd.

Daeth y ddwy ochr i gytundeb gan gyflwyno cytundeb gwirfoddol oedd yn golygu dylai hyn roi mwy o ryddid i ffermwyr allu bargeinio am y pris.

Mae mwyafrif y cwmnïau gwerthu llaeth wedi arwyddo'r cytundeb ond mae Ed Bailey yn dweud nad yw'r sefyllfa wedi ei datrys yn llwyr:

"Mae cynnydd o werth wedi ei wneud ond yn fy marn i mae'n annerbyniol ein bod ni dal yn gweld rhai proseswyr, gan gynnwys rhai yng Nghymru sydd yn llusgo eu traed.

"Dw i'n derbyn bod gan yr undeb, y gynghrair llaeth a ffermwyr unigol rol i chwarae er mwyn rhoi pwysau ar y rhai sydd yn gweithredu tu allan i'r cod. Ond fe fydden i yn gobeithio y bydd y Gweinidog hefyd yn rhoi pwysau ar y rhai sydd ddim yn dilyn y cod."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol