Addewid am brofion bwyd llymach

  • Cyhoeddwyd
BMC
Disgrifiad o’r llun,

Mae BMC wedi tynnu cynnyrch yn ôl yn dilyn canlyniadau positif ar dair sampl o gig

Mae cynghorau Cymru wedi addo profion llymach ar fwydydd wedi i gig ceffyl gael ei ganfod mewn byrgyrs a gynhyrchwyd gan gwmni o Bowys.

Derbyniodd saith awdurdod fwyd gan gwmni Burger Manufacturing Company o Lanelwedd, lle mae tair sampl wedi profi'n bositif.

Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Steve Thomas, y byddai'r profion nawr yn cynyddu.

Mynnodd fod rhaid i gyflenwadau i ysgolion fod yn ddiogel.

Lledu'n ehangach

Cynghorau Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Powys a Chastell-nedd Port Talbot yw'r awdurdodau i ddiodde' yn y datblygiad diweddaraf.

Derbyniodd y rhain y byrgyrs gan BMC sy'n cael eu dosbarthu gan gwmni ym Mhowys o'r enw Holdsworth.

Dywedodd BMC fod eu cig wedi dod gan gwmni Farmbox yn Llandre ger Aberystwyth, ac fe ategwyd hynny gan y dirprwy weinidog amaeth, Alun Davies AC ar lawr y Senedd.

Mae cwmni Farmbox yn destun ymchwiliad gan yr heddlu.

Mae BMC wedi tynnu eu cynnyrch yn ôl wedi i'r samplau brofi'n bositif am gig ceffyl.

Dywedodd pump o'r cynghorau eu bod wedi tynnu'r byrgyrs yn ôl er nad oes tystiolaeth eu bod wedi derbyn byrgyrs oedd wedi eu halogi.

Ond mae'r effaith ar y gadwyn fwyd i gynghorau yn lledu'n ehangach na'r saith awdurdod.

Cyflenwad diogel

Mae'r BBC wedi canfod bod cynghorau Casnewydd a Wrecsam hefyd wedi tynnu byrgyrs a ddaeth gan gyflenwyr gwahanol yn ôl - dywedodd y ddau mai mesur rhag ofn oedd hyn - ac mae cyngor Sir y Fflint wedi dilyn yr un trywydd.

Dywedodd Mr Thomas nad argyfwng diogelwch bwyd oedd hyn ond mater o ymddiried.

"Yn amlwg fedrwn ni ddim cael gwared â'r holl gig," meddai, "ond rhaid sicrhau bod y cyflenwadau i ysgolion yn ddiogel.

"Os byddwn yn canfod fel arall, fe fyddan nhw'n cael eu tynnu nôl ar unwaith."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol