Tesco i brynu mwy o gig gan ffermwyr o'r DU

  • Cyhoeddwyd
Gwartheg yn pori
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tesco yn bwriadau cynnig cytundebau dwy flynedd i gynhyrchwyr cig o'r DU

Bydd Tesco yn cyhoeddi'n ddiweddarach eu bod yn bwriadu prynu mwy o'u cig yn lleol, fel rhan o newidiadau sy'n cael eu cyflwyno'n dilyn y sgandal cig ceffyl.

Wrth annerch cynhadledd undeb ffermwyr yr NFU yn Birmingham ddydd Mercher, mae disgwyl i brif weithredwr Tesco, Philip Clarke, ddweud fod y cwmni'n anelu i brynu mwy o gyw iar a chigoedd eraill gan ffermwyr o'r DU.

Ers i'r pryderon godi am y gadwyn fwyd, mae archfarchnadoedd wedi cael eu beirniadu am beidio â chyfathrebu gyda chwsmeriaid yn ddigon cyflym.

Mae disgwyl i Mr Clarke ddweud y bydd y cwmni'n prynu eu holl gyw iar o ffermydd o Brydain erbyn mis Gorffennaf, gyda chynnyrch porc i ddilyn.

Cytundebau

Y gred yw y bydd Tesco'n cynnig cytundebau dwy flynedd i helpu cwmnïau i gynllunio eu busnes yn yr hirdymor.

Yn gynharach yn y mis, dywedodd Mr Clarke y byddai'r cwmni'n newid eu hagwedd tuag at brosesu bwyd wedi iddi ddod i'r amlwg eu bod wedi gwerthu bwydydd oedd yn cynnwys cig ceffyl.

Tesco oedd un o'r archfarchnadoedd cynta' i dynnu cynnyrch oddi ar y silffoedd wedi i'r sgandal ddod i'r amlwg ar Ionawr 16.

Roedd y bwydydd hynny'n cynnwys byrgyrs a sbageti bolognese rhewedig.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd Mr Clarke:

"Nod y profion yw sicrhau os nad yw ar y label, dyw e ddim yn y pecyn - os mai cig eidion yw e, cig eidion yw e a dim byd arall.

"Yr ail beth yw, 'da ni'n mynd i ddod â'r broses o gynhyrchu cig yn nes at adre'. 'Da ni yn prynu rhywfaint - yn enwedig ar gyfer ein cynnyrch wedi'i rewi - y tu allan i Ewrop, a chymaint ag y gallwn i, fe ddown ni â hynny'n nes at adre'.

"Y trydydd peth yw - 'da ni'n mynd i gael mwy o bartneriaethau, cydweithio mwy gyda ffermwyr.

"Da ni'n mynd i orfod sicrhau gyda'r cynhyrchwyr, gyda'r ffermwyr, y gall pawb wneud bywoliaeth o'r peth. Rwy'n gobeithio na fydd yn arwain at godi prisiau."

Gosod esiampl

Wrth ymateb i'r newyddion ar y Post Cynta' fore Mercher, dywedodd Llywydd yr NFU yng Nghymru, Ed Bailey:

"Mae'n amlwg fod yr archfarchnadoedd wedi cydnabod bod y gadwyn fwyd yn rhy gymhleth, yn rhy hir.

"Yn amlwg mae PR yn rhan o'r peth. Ond os ydy Tesco yn cadw at eu gair ac yn mynd ymlaen i brynu mwy o gig o Brydain - fel y dylsen nhw wneud yn y pendraw - gobeithio bydd yr archfarchnadoedd eraill yn dilyn hefyd.

"Mae'n beth da i ni fel ffermwyr, ond hefyd yn beth da i'r cyhoedd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol