Gwasanaeth i gofio'r milwyr

  • Cyhoeddwyd
L/Cpl Craig RobertsFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Craig Roberts oedd un o'r milwyr a fu farw dydd Sadwrn diwethaf

Mae dau filwr a fu farw ym Mannau Brycheiniog penwythnos diwethaf wedi eu cofio mewn gwasanaeth yn Y Fenni.

Roedd y ddau ddyn yn ceisio bod yn aelodau o Fyddin Diriogaethol yr SAS, drwy gwblhau gorymdaith 40 milltir.

Bu farw Is-gorporal Craig Roberts, oedd yn 24 oed ac o Fae Penrhyn yng Nghonwy a milwr arall wrth i'r tymheredd gyrraedd 30C.

Cafodd dyn arall ei anfon i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Does gan Eglwys priordy y Santes Fair yn y Fenni ddim cysylltiad uniongyrchol gyda'r milwyr ond mae parchedig yr eglwys, Mark Soady tan yn ddiweddar wedi bod yn gaplan gyda'r fyddin diriogaethol.

'Colled'

Cafodd y dynion a fu farw eu cofio fel rhan o'r gwasanaeth lluoedd arfog am 2.30pm brynhawn Sul yn dilyn gorymdaith o gwmpas y dref gan gyn milwyr.

Roedd y gwasanaeth wedi ei addasu ychydig er mwyn cofio am y ddau filwr.

Dywedodd y Parchedig Soady: "Mae yna deimlad o golled yn y gymuned ehangach.

"Rydyn ni yn gweld y milwr yn dod trwy'r dref pan maen nhw'n dod i fyny'r mynyddoedd felly mae'r teuluoedd sydd yn byw yma yn Y Fenni yn meddwl amdanyn nhw fel eu bod yn un ohonyn nhw."

Y cyn caplan gyda'r fyddin y Parchedig Ray Hayter oedd yn arwain y gwasanaeth.