Cyhoeddi enw ail filwr fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enw'r ail filwr a fu farw wrth ymarfer gyda'r fyddin diriogaethol ym Mannau Brycheiniog.
Bu farw Edward John Maher ar 13eg Orffennaf wrth geisio cwblhau gorymdaith i ddod yn aelod o Fyddin Diriogaethol yr SAS.
Does dim manylion arall wedi eu cyhoeddi ar hyn o bryd.
Cyhoeddwyd enw'r milwr arall fu farw ar Orffennaf y 15fed. Roedd yr Is-gorporal Craig Roberts yn 24 oed ac yn dod o Fae Penrhyn.
Mae milwr arall yn parhau i fod yn yr ysbyty.
Mae disgwyl i grwner Powys agor a gohirio cwest i farwolaethau'r milwyr yn ddiweddarach.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn:
"Gyda thristwch mawr gall y Weinyddiaeth gadarnhau marwolaeth Edward John Maher, milwr wrth gefn, wrth ymarfer ym mannau Brycheiniog ar 13eg o Orffennaf."
"Rydym ni'n meddwl am ei deulu a'i ffrindiau yn ystod yr adeg anodd yma."
Mae Heddlu Dyfed Powys a'r Fyddin yn ymchwilio i'r marwolaethau, a ddigwyddodd ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn.
Mae ei deulu wedi gofyn am breifatrwydd i alaru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2013