Cyfarfod i drafod argyfwng byd natur
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar faes y Sioe Brenhinol yn Llanelwedd yn ddiweddarach i drafod argyfwng ym myd natur.
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol Alun Davies wedi galw'r cyfarfod i drafod planhigion ac anifeiliaid prin a'r ffordd orau o weithredu i sicrhau nad ydy'r rhywogaethau yma yn diflannu.
Bydd y gweinidog yn cyhoeddi £6 miliwn ychwanegol i geisio sicrhau nad yw bywyd gwyllt a chynefinoedd yn cael eu dinistrio.
Ond mae nifer o ffermwyr wedi gwylltio, wedi i'r gweinidog wahodd y newyddiadurwr dadleuol George Monbiot i annerch y gynhadledd.
Ffrae
Mae'r cyfarfod wedi ei drefnu wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi, sy'n rhestru anifeiliaid a phlanhigion sy'n prinhau yng Nghymru.
Mae Alun Davies eisiau trafod y ffordd orau o ddiogelu rhywogaethau prin gyda ffermwyr a dod i gonsensws ar sut i weithredu yn y dyfodol.
Ond mae ffermwyr yn flin mai dim ond colofnydd y Guardian a'r ymgyrchwr amgylcheddol George Monbiot sydd wedi ei wahodd i annerch y gynhadledd, a hynny yn dilyn ei sylwadau dadleuol am amaeth yng Nghymru.
Yn y gorffennol mae Mr Monbiot wedi beirniadu dulliau ffermio defaid ar fynyddoedd y canolbarth.
Mae Alun Davies wedi dweud ei fod am anghofio dadleuon y gorffennol i ddod i gonsensws gyda ffermwyr yn y cyfarfod.
Ond, mae'r penderfyniad i'w wahodd wedi siomi Nick Fenwick, ymgynghorydd polisi Undeb Amaethwyr Cymru.
"Nid yn unig mae o wedi 'sgwennu pethau caled am amaeth yng Nghymru, mae o wedi 'sgwennu pethau sydd ddim yn wir am amaeth a ffermwyr yng Nghymru, ac mae wedi gwneud hynny dros flynyddoedd," meddai.
"Mae ei syniadau mor eithafol, i gyd mae hyn am wneud ydy polareiddio'r ddadl. Mae'n warthus bod y dyn yma wedi ei wahodd i siarad yn y digwyddiad yma."
£6m
Er y ffraeo, bydd y gweinidog yn cyhoeddi £6 miliwn i reoli bywyd gwyllt, ac yn gofyn am wella'r data sy'n cael ei gasglu yng Nghymru.
Cyn y gynhadledd, dywedodd y gweinidog cyfoeth naturiol:
"Mae adroddiad Cyflwr Natur wedi amlygu lleihad sylweddol mewn ystod o rywogaethau a chynefinoedd yng Nghymru. Mae angen i ni weithredu i atal y lleihad yma."
"Bydd y gynhadledd yn dod a'r partneriaid perthnasol at ei gilydd i ni ddod i gonsensws am yr hyn sydd angen ei wneud."
Dywedodd hefyd bod angen sicrhau bod digon o ddata i roi syniad clir o'r sefyllfa yng nghefn gwlad.
"Bydd y mesurau newydd yn sicrhau bod gennym ni ddata o safon uchel, sy'n gyson ac yn hawdd ei rannu, a modd o gyd-weithio i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd mewn ardaloedd penodol o Gymru."
Ymateb
Mae RSPB Cymru wedi gweld lleihad mewn niferoedd adar fel y gornchwiglen a'r gylfinir ac maen nhw'n gofyn i Lywodraeth Cymru "ariannu cadwraeth yn iawn".
Dywedodd cyfarwyddwr RSPB Cymru, Katie-Jo Luxton, bod angen atal dirywiad rhywogaethau, sicrhau bod deddfwriaeth yn cael ei weithredu ac amddiffyn cynefinoedd.
"Rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru ofalu bod glastir yn cefnogi ffermwyr i gymryd camau ar gyfer helpu bywyd gwyllt, a gwneud yn siŵr bod safleoedd pwysig ar dir a môr yn cael eu rheoli yn gywir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2013
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2013