Y BBC yn creu gwasanaeth ar-lein newydd
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg gyda'r bwriad o ehangu apêl a chyrhaeddiad gwasanaethau Cymraeg ar-lein.
"Cymru Fyw" fydd enw'r gwasanaeth newydd, fydd yn cyfuno'r newyddion diweddaraf gyda ffrwd blog byw, porth i gyfeirio defnyddwyr at gynnwys ar-lein gan gyflenwyr eraill, a llwyfan ar gyfer gwasanaethau byw BBC Cymru megis Radio Cymru a Democratiaeth Fyw.
Mae disgwyl y bydd Cymru Fyw ddod i fodolaeth dros y misoedd nesaf, fel cynllun peilot fydd yn parhau am ddwy flynedd. Bydd chwech o swyddi ychwanegol yn cael eu creu er mwyn cryfhau'r tîm sy'n gweithio i'r BBC yn yr iaith Gymraeg.
Dwedodd pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd: "Mae'n rhaid i wasanaethau ar-lein, rhyngweithiol yn Gymraeg gystadlu gyda chyfryngau byd-eang, a dyna un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu'r iaith. Er ein bod yn darparu rhai o'r gwefannau mwyaf poblogaidd yn Gymraeg ers nifer o flynyddoedd, rydyn ni eisiau creu mwy o argraff ar ein cynulleidfa."
Mewn araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, ei fod am weld cynnydd yn y nifer sy'n defnyddio gwasanaethau ar-lein Gymraeg y Gorfforaeth.
Ar y pryd, tua 20,000 o ddefnyddwyr oedd yn penderfynu mynd at wasanaethau rhyngweithiol Gymraeg y BBC, a'i fwriad oedd denu 50,000 erbyn 2015.
Heddiw dywedodd Sian Gwynedd fod y niferoedd eisoes wedi cynyddu tipyn: "Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae nifer y defnyddwyr sy'n defnyddio gwefannau Cymraeg y BBC wedi cynyddu dros 50% - ond rydyn ni'n hyderus bod yna le i dyfu ymhellach wrth i'r defnydd o ffônau symudol a thabledi gynyddu.
"Rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hyd yma er mwyn cyrraedd 50,000 o ddefnyddwyr unigryw bob wythnos."
Mae adolygiad o wasanaethau digidol y BBC yn Gymraeg wedi arwain y gorfforaeth i flaenoriaethu pum maes fel rhan o'r datblygiad ar-lein newydd.
Ynghyd â Cymru Fyw, y meysydd fydd yn cael blaenoriaeth ar-lein yw BBC Radio Cymru, rhaglenni Cymraeg BBC iPlayer, ac adrannau Dysgu a CBeebies i fyfyrwyr a phlant ifanc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2013