Galw am ysgol feddygol i hyfforddi meddygon teulu
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr wedi galw am sefydlu ysgol feddygol i hyfforddi doctoriaid yn y gogledd oherwydd prinder meddygon teulu mewn ardaloedd gwledig.
Dywed y cynghorydd Eryl Jones Williams ei bod yn fwy tebygol y byddai meddygon yn dewis aros yn yr ardal pe baent wedi derbyn hyfforddiant yno.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod penodi meddygon teulu yn broblem mewn sawl ardal yng Nghymru.
Ychwanegodd llefarydd eu bod yn gweithio'n galed i sicrhau y bydd yna fwy o benodiadau yn y dyfodol.
Daw sylwadau'r cynghorydd Williams ar ôl i nifer y meddygon teulu ym Mlaenau Ffestiniog ostwng o bedwar i ddau.
"Mae'r sefyllfa yn ddrwg, ac yn gwaethygu," meddai.
"Mewn ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, yn enwedig ardaloedd gwledig, mae yna brinder meddygon ac mae'r prinder yn mynd i barhau am beth amser.
"Ar hyn o bryd maen nhw'n gadael i fynd i Gaerdydd, neu i Fanceinion a Lerpwl.
"Maen nhw yno am amser hir ac maent yn tueddu i aros yn yr ardaloedd hynny, ac mae'n anodd eu denu'n ôl yma.
"Byddwn yn hoffi rhyw fath o hyfforddiant prifysgol i feddygon, a hynny yn y gogledd.
"Pe na bai hynny'n digwydd dwi'n credu y bydd yn dalcen caled denu meddygon i'r gogledd."
Straen
Mae un o gynghorwyr lleol Blaenau Ffestiniog, Mandy Williams-Davies, wedi galw am gymorth brys oddi wrth Weinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford.
"Fel nifer o feddygfeydd yn ein hardaloedd gwledig, mae'r feddygfa ym Mlaenau Ffestiniog yn wynebu sefyllfa anodd wrth geisio denu meddygon newydd," meddai.
"Mae meddygfa a oedd yn gryf gyda phedwar meddyg wedi gostwng i ddau, gan wasanaethau 5,000 o bobl ym Mlaenau Ffestiniog.
"Dyw'r sefyllfa ddim yn gynaliadwy ac mae'n rhoi straen mawr ar feddygon a staff arall y feddygfa.
"Eisoes mae dwy gangen lai o'r feddygfa - yn Llan Ffestiniog a Dolwyddelan - wedi cau er mwyn i adnoddau fod ar gael i ddiwallu'r anghenion yn y Blaenau.
"Dyw'r sefyllfa ddim yn dderbyniol a ddim yn gynaliadwy.
"Mae'n creu pryder ymhlith trigolion lleol sydd eisoes wedi gweld newid mawr yn y ddarpariaeth iechyd gyda chau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog."
Cysylltiad cyson
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae'r broblem o gyflogi meddygon teulu yn un cenedlaethol. Er hyn, mae yna broblemau penodol mewn rhai rhannau o ogledd Cymru.
"Rydym yn llawn cydnabod y sefyllfa ac mae Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol yn cydlynu gwaith i benderfynu ar fesurau i liniau'r problemau ac i ddatblygu polisi recriwtio cryf ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
"Ar hyn o bryd rydym yn ystyried nifer o syniadau yn y tymor byr a'r hir dymor i fynd i'r afael â'r prinder meddygon ym Mlaenau Ffestiniog.
"Rydym mewn cysylltiad cyson gyda'r feddygfa.
"Hefyd bydd ein prosiect aml-bartneriaeth i godi canolfan ofal fodern ym Mlaenau Ffestiniog yn fodd o ddenu meddygon teulu i'r dref."
Ychwanegodd y llefarydd fod y Bwrdd yn cydweithio yn agos gyda phrifysgolion meddygol yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr er mwyn ceisio cynnig cyfleoedd hyfforddiant i ddoctoriaid yng ngogledd Cymru - ac i'w hannog i geisio am swyddi yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hi'n amser caled yn ariannol, ac mae yna benderfyniadau gwariant anodd yn ein hwynebu.
"Serch hynny, mae buddsoddi mewn staff rheng flaen yn parhau i gynyddu.
Hyrwyddo
"O'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, mae yna 40% yn fwy o feddygon, deintyddion, gwyddonwyr a therapyddion nawr yn gweithio yng Nghymru.
"Bu cynnydd hefyd o 10% yn nifer y nyrsys, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd.
"Mae ymgyrch 'Gweithio i Gymru' yn parhau i hyrwyddo'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fel dewis gwych i staff meddygol sydd eisiau gweithio mewn gwlad lle mae'r pwyslais yn parhau ar egwyddorion gwreiddiol y Gwasanaeth Iechyd."
Ychwanegodd fod yna eisoes gysylltiadau cryf rhwng prifysgolion yng Nghymru a Byrddau Iechyd yn y gogledd.
"Ar y cyd maent yn cynnig ystod eang o addysg feddygol a rhaglenni hyfforddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd30 Mai 2013