'Angen sylw i'r Gymraeg mewn deddf gynllunio'
- Cyhoeddwyd
Mi ddylai materion yr iaith Gymraeg fod yn amlwg mewn deddf gynllunio newydd, meddai aelod o'r mudiad iaith Dyfodol i'r Iaith.
Yn ôl y cyfreithiwr Emyr Lewis, mae angen cryfhau y Gymraeg o fewn y gyfraith gynllunio gan nad yw'r nodyn TAN 20 sydd yn bodoli ar hyn o bryd yn ddigon cryf.
TAN 20 yw'r unig ganllaw cenedlaethol sy'n bodoli o ran sut y dylai awdurdodau lleol Cymru ddelio â cheisiadau allai effeithio ar siaradwyr Cymraeg lle mae'r iaith Gymraeg yn "rhan o'r drefn gymdeithasol."
Dehongliad
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n cyhoeddi fersiwn newydd o hwnnw, fydd o byth yn ddigon i ddiogelu'r iaith, meddai Emyr Lewis.
"Dim ond nodyn cyngor gan Llywodraeth Cymru ydy hwn. Oherwydd mae nodyn cyngor ydy o mae o yn agored i amryw o ddehongliadau. Fydd TAN 20 ddim yn gosod sylfaen gadarn."
Dywedodd fod y cyfrifiad diweddar wedi dangos dirywiad y Gymraeg a bod rhai elfennau o ddatblygu tai yn gwanhau'r iaith.
Mae'r mudiad iaith, sy'n cynnal ei gyfarfod cyntaf blynyddol ar Faes yr Eisteddfod, wedi dweud y dylai unrhyw benderfyniadau cynllunio gymryd ystyriaeth o'r iaith ac na ddylai unrhyw ddatblygiad danseilio'r Gymraeg yn yr ardal honno.
Targedau
Yn ôl Dyfodol i'r Iaith, mae angen ail edrych ar y targedau codi tai am fod yr economi wedi dirywio ers y 90au pan y cafodd y targedau eu creu.
Yn eu dogfen "Arolwg o flwyddyn gyntaf mudiad Dyfodol i'r Iaith" maen nhw'n dweud: "Bellach mae'r sefyllfa economaidd wedi newid yn sylfaenol ac mae'n amlwg nad oes angen codi cynifer o dai newydd yng Nghymru gyda chynifer o dai gweigion ar gael."
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi bod angen rhoi mwy o bwyslais ar roi tai i bobl leol.
"O ran tai cymdeithasol, mae cartrefu pobl o rannau eraill o'r DU mewn ardaloedd Cymraeg heb ddim ymdrech i'w cymhathu yn tarfu ar natur ieithyddol y cymunedau hynny. Gall iaith pentref newid fwy neu lai dros nos mewn amgylchiadau o'r fath.
"Mae angen newid y system bwyntiau i bwyso o blaid pobl leol ac mae angen diffiniad clir o'r hyn a olygir wrth 'lleol'."
Asiantaeth iaith?
Un syniad sydd wedi ei grybwyll gan rai, meddai Emyr Lewis, yw cael asiantaeth yn debyg i CADW mewn "ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol".
Un o brif swyddogaethau CADW yw gwarchod safleoedd hanesyddol pwysig ac yn yr un modd byddai asiantaeth newydd yn gwarchod yr iaith, meddai.
"Agor y drws o ran y drafodaeth" yw bwriad y cyfreithiwr ond mae'n dweud bod angen rhywbeth mwy cadarn o fewn y maes cynllunio i ddiogelu'r Gymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013