Dyfodol: Cyfarfod cyffredinol cyntaf yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Bethan Jones Parry
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bethan Jones Parry ei hethol fel llywydd cyntaf'r mudiad

Daeth dros 60 o aelodau a chefnogwyr ynghyd i ethol llywydd i fudiad newydd.

Mae Dyfodol i'r Iaith yn sefydliad annibynnol, heb gysylltiadau gwleidyddol, fydd yn ceisio sicrhau bod gan y Gymraeg ran amlwg ym mywydau pobl yng Nghymru.

Cafodd y mudiad ei lansio yn swyddogol yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ym mis Awst eleni.

Yn eu cyfarfod yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, cafodd Bethan Jones Parry ei hethol yn ddiwrthwynebiad fel llywydd cynta'r mudiad.

Yn ogystal etholwyd deg o gyfarwyddwyr i'r mudiad fydd yn gweithredu fel pwyllgor gwaith. Y deg yw: Heini Gruffudd, Simon Brooks, Elin Walker Jones, Elin Wyn, Emyr Lewis, Eifion Lloyd Jones, Meirion LLywelyn, Richard Wyn Jones, Huw Ll. Edwards ac Angharad Mair.

Heini Gruffudd fydd cadeirydd y Bwrdd.

Fe gytunwyd hefyd y bydd Myrddin ap Dafydd, Cynog Dafis, Angharad Dafis a Robat Gruffudd yn aelodau craidd y mudiad. Ni fydd modd i'r mudiad newid ei amcan o weithredu er lles y Gymraeg heb cydsyniad yr aelodau craidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Dyfodol i'r Iaith: "Rydym yn awyddus i glywed barn aelodau ynglŷn â sefydlu rhaglen waith Dyfodol i'r Iaith."

Ymysg cefnogwyr y mudiad yw cyn-Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price, yr hanesydd Hywel Williams a'r nofelydd Robat Gruffudd a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni gan benderfynu rhoi'r £5,000 o wobr i Dyfodol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol