Angen corff 'i hybu cynaliadwyedd,' medd Dafydd Elis-Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae angen sefydlu corff cenedlaethol i hyrwyddo cynaliadwyedd yng Nghymru, yn ôl Cadeirydd Pwyllgor Amgylchedd y Cynulliad.
Mewn cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod, lle oedd y Mesur Cynaliadwyedd yn cael ei drafod, dywedodd AC Dwyfor Meirionnydd Dafydd Elis-Thomas y byddai corff yn medru cynghori Llywodraeth Cymru a rhoi sylwadau ar strategaethau.
Mae'r llywodraeth yn llunio deddf newydd yn y maes ac mae cynghrair o fudiadau yn pwyso ar wleidyddion i lunio deddfwriaeth gref.
Maen nhw'n galw am hybu'r defnydd o Gymraeg mewn cymunedau, creu swyddi gwyrdd a dileu tlodi tanwydd yn y mesur.
Comisiynydd
Hefyd maen nhw'n galw am benodi Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy.
Ond yn y cyfarfod dywedodd yr AC: "Dw i ddim yn meddwl ei bod yn ddigon i sefydlu comisiynydd sy'n atebol i lywodraeth yn unig, fod rhaid cynnwys cymdeithas sifig i gyd yn y broses, yn enwedig yr holl rhanddeiliaid sy'n rhan o'r ymgyrch.
"Mae 'na fudiadau rhyngwladol, amgylcheddol, diwylliannol a wedyn mae'n bwysig bod yr elfen yna yn cael ei chynnwys wrth i ni hyrwyddo'r peth, nid dim ond mater o lywodraeth yn dweud wrth y sector cyhoeddus beth i' wneud ydy'r maes yma."
Dywedodd y dylai'r corff fod yn un annibynnol, yn wahanol i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gweithredu polisïau ar ran y llywodraeth.
'Cynrychioliadol'
"Er enghraifft, (os ystyriwch) y ddadl 'ma ynglŷn â model Hafren.
"Mi ddylai fod ganddoch chi gorff cryf cenedlaethol yn gynrychioliadol o fudiadau amgylcheddol a natur a busnes fyddai'n gallu dweud pam bod hwn yn beth da neu pam bod hwn ddim yn beth da.
"Ond hefyd bydd codi ymwybyddiaeth a chomisiynu ymchwil ... fel bod pobl yn gallu gwybod yn well beth ydy'r sefyllfa a chydweithio efo phrifysgolion ac ymchwilwyr a mudiadau yn rhan o'r peth."
Yn ystod y cyfarfod yr oedd Robin Farrar o Gymdeithas yr Iaith yn ei gadeirio roedd rhai yn y gynulleidfa yn mynegi barn gref am safbwynt yr AC o blaid melinau gwynt a pheilonau.
'Colli cyfle'
"Dan ni yn colli cyfle," meddai'r AC. "Dan ni wedi cael ein bendithio yng Nghymru efo digon o wynt ar yr arfordir ac ar yr ucheldiroedd a holl fwriad y cynllun TAN 8 yn wreiddiol oedd ceisio helpu cyfeirio datblygwyr i ardaloedd oedd yn cael eu hystyried yn addas i ddatblygu.
"Ond, yn anffodus, mae hwn i gyd wedi cael ei droi wyneb i waered lle mae na wrthwynebiadau anwyddonol ar sail golygfaol, nid ar sail amgylcheddol neu ar sail cynhyrchu ynni cynaliadwy."
Mewn sawl ardal, gan gynnwys Maldwyn, mae ymgyrchwyr wedi dweud nad yw melinau gwynt yn cynhyrchu digon o ynni a'u bod yn difetha'r tirlun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2013