Cymru 1-2 Croatia

  • Cyhoeddwyd
Gareth Bale yn rhoi Cymru ar y blaen
Disgrifiad o’r llun,

Gareth Bale yn rhoi Cymru ar y blaen

Trodd gêm a ddechreuodd mor addawol yn un dorcalonnus i Gymru wrth i gôl hwyr i Croatia sicrhau buddugoliaeth i'r ymwelwyr yn Stadiwm Liberty yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 nos Fawrth.

Mae Cymru nawr yn disgyn o drydydd i bedwerydd yn y tabl tu ôl i Wlad Belg (a faeddodd Macedonia 1-0 nos Fawrth), Croatia a Serbia (a gurodd yr Alban 2-0 nos Fawrth).

Gareth Bale roddodd Cymru ar y blaen wedi 23 munud wrth guro Stipe Pletikosa gyda chic o'r smotyn ar ôl i Joe Ledley gael ei faglu gan Dejan Lovren.

Cafodd Bale gyfle euraidd i ddyblu'r fantais pan oedd mewn sefyllfa un wrth un yn erbyn Pletikosa ond ergydiodd dros y trawst er mawr syndod i bawb yn y Liberty. Petai Cymru wedi mynd ar y blaen 2-0...

Cafodd Croatia hefyd eu cyfleon mewn hanner cyntaf hynod gyffrous, gyda gwaith da gan yr amddiffyn a Boaz Myhill yn eu rhwystro.

Myhill

Roedd Myhill, sydd ddim yn ddewis cyntaf yn West Brom ar hyn o bryd, ar ei orau glas gydag arbediad gwyrthiol wedi 59 munud.

Ond fe gafodd ei guro gan Dejan Lovren wedi 77 munud wrth i'w ergyd o bell wyro heibio'r golwr.

A rhoddwyd un cyfle yn ormod i Eduardo, a oedd wedi methu dau gyfle da yn y gêm, wedi 87 munud pan adawyd ef heb ei farcio'n ddigonol yn y cwrt cosbi ac yntau'n rhwydo o flaen y gôl.

Ond wrth i'r Cymry lyfu eu clwyfau, mae digon o bethau cadarnhaol i gymryd o'r gêm hon, nid yn lleiaf berfformiad seren y gêm, Jonathan Williams, yn dechrau dros ei wlad am y tro cyntaf.

Rhaid cofio hefyd nad oedd pum chwaraewr canol cae Cymru ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Croatia - roedd Jack Collison, David Vaughan, Joe Allen, David Edwards ac Andrew Crofts yn dioddef o anafiadau ac fe wnaeth Aaron Ramsey golli'r gêm wedi iddo gael ei anfon o'r cae wedi 90 munud o'r gêm yn erbyn Yr Alban nos Wener.

Nos Wener curodd Croatia Serbia 2-0 yn Zagreb yn y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn dilyn y rhyfel rhyngddynt yn ystod yr 1990au.

Carfan Cymru

Boaz Myhill (West Bromwich Albion), Lewis Price (Crystal Palace), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers), Ben Davies (Abertawe), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Joel Lynch (Huddersfield Town), Ashley Richards (Abertawe - ar fenthyg i Crystal Palace), Sam Ricketts (Bolton Wanderers), Ashley Williams (Abertawe), Lewin Nyatanga (Bristol City), Jack Collison (West Ham United), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Celtic), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Craig Bellamy (Dinas Caerdydd), Jermaine Easter (Crystal Palace - ar fenthyg i Millwall), Simon Church (Reading), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Owain Tudur Jones (Inverness Caledonian Thistle).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol