Kirsty Jones: tystiolaeth allai ddatrys achos?

  • Cyhoeddwyd
Kirsty JonesFfynhonnell y llun, Kirsty Jones' family
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kirsty Jones yn teithio o gwmpas y byd pan gafodd hi ei lladd

Mae'r heddlu sydd wedi bod yn ymchwilio i farwolaeth menyw a gafodd ei lladd yng Ngwlad Thai 13 blynedd yn ôl yn dweud y gallai cyfweliadau newydd gyda thystion a datblygiadau DNA arwain at wybodaeth allai ddatrys yr achos.

Cafodd Kirsty Jones, 23 oed o Tredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu yn Chiang Mai yn 2000.

Roedd hi'n teithio o gwmpas y byd pan fu farw.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael caniatâd i adolygu tystiolaeth fforensig gafodd ei chasglu yng Ngwlad Thai.

Mae mam Kirsty Jones yn hyderus y gallai'r achos gael ei ddatrys yn sgil datblygiadau gwyddonol.

Ers ei marwolaeth mae Sue Jones wedi bod yn ymgyrchu er mwyn darganfod pwy wnaeth lofruddio ei merch.

Y llynedd mi aeth hi draw i Wlad Thai efo swyddogion o Gymru i gynnig £10,000 i unrhyw un gyda gwybodaeth.

Ond ofer oedd yr ymdrechion.

Ail edrych

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael caniatâd i ail edrych ar yr holl ddogfennau sydd wedi eu casglu gan yr heddlu yng Ngwlad Thai a hynny am y tro cyntaf.

Bydd yr heddlu yn dod draw i Brydain i holi tystion eto oedd yn Chiang Mai pan ddigwyddodd y llofruddiaeth.

"Maen nhw yn Brydeinwyr sydd yn ôl yn y Deyrnas Unedig ac rydyn ni'n credu bod yna werth eu hailgyfweld," meddai'r Ditectif Arolygydd Andy John.

"Wrth i amser basio, efallai y byddan nhw yn teimlo yn fwy cyfforddus yn rhannu gwybodaeth na maen nhw wedi gwneud o'r blaen."

Mae gan yr heddlu broffil DNA o'r person y maen nhw yn credu laddodd Kirsty neu broffil o rywun wnaeth ei helpu. Y gred yw bod y person yn hanu o Dde Ddwyrain Asia.

"Dyw'r broses DNA yng Ngwlad Thai ddim wedi datblygu cymaint â'r un ym Mhrydain ond mae'n datblygu.

"Mae nifer y bobl sydd ar gronfa ddata DNA Gwlad Thai yn tyfu. Maen nhw hefyd wedi cymryd samplau DNA gan garcharorion sydd gyda throseddau penodol. Mae'r gwaith yna yn parhau," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue Jones yn dweud bod yna gwestiynau dal heb eu hateb

Gobaith

Mae Sue Jones yn dweud na fydd hi byth yn colli gobaith,

"Mae'n wych os gall yr heddlu gael caniatâd i edrych ar bethau arbennig a gwneud mwy o waith fforensig achos mae fforensig yn gwella bob dydd a chi byth yn gwybod, efallai y daw nhw o hyd i'r un peth yna maen nhw angen."

"Dw i ddim yn meddwl y caf fi byth wybod pam. Ond fel ei mam hi dw i yn credu bod yna nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb ac mae yna angen gwneud mwy o waith trylwyr ar rannau o'r ymchwiliad gan yr awdurdodau yng Ngwlad Thai."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol