Lluniau y dydd Sadwrn olaf / The final Saturday's gallery
- Cyhoeddwyd

“Dere cwtcho coeden” yw enw prosiect Cynhyrchiadau La La La. Roedd Efa’n cael cwtch gan y goeden cyn gwneud addewid i helpu’r amgylchedd / Efa having a 'cwtch' before making a pledge to help the environment

Ffion sydd wedi bod yn tynnu lluniau o bobl o gwmpas y Maes ac ysgrifennu enwau'r elusennau maen nhw'n eu cefnogi ar y llun / Ffion has been taking photos of people around the Maes and writing the names of the charities they support on each picture

Gwisgoedd Gorsedd y Beirdd yn cael eu cludo o'r Maes i gael eu golchi a'u cadw yn stordy'r Eisteddfod / The Gorsedd of the Bards wardrobe being carted off for another year

"Waeth na Maes B": Roedd Ieuan Hughes a Phil Blake, dau fyfyriwr o ganolbarth Cymru, yn glanhau'r Maes y bore wedi gig fawr Edward H Dafis nos Wener / Ieuan Hughes and Phil Blake clearing the Maes on the morning following the Edward H Dafis gig on Friday evening

Harry a'i dad yn cael hwyl gyda'r bêls gwair / Harry and his father having fun on the hay bales

Nigel Skinner, Jack Reece a Dave Hughes o Gôr Meibion Y Fflint ar y ffordd i'r Pafiliwn i gystadlu / Nigel Skinner, Jack Reece and Dave Hughes from Flint Male Voice Choir on their way to compete in the Pavilion

Llyfr llofnodion! Rachael a Trystan o raglen Cyw ar S4C yn arwyddo'u llofnodion ar ôl darllen stori i blant / Rachael and Trystan from S4C's children's service, Cyw signing their autographs

Balŵnau ym mhob man wrth babell y Mudiad Meithrin / Balloons all around at the Mudiad Meithrin stall

Na, nid Kelly Jones ond Arwel Lloyd (Gildas) ar lwyfan Tŷ Gwerin / No, it's not Kelly Jones, it's Arwel Lloyd (otherwise known as Gildas) on the Tŷ Gwerin stage

Sesiwn 'Dysgu'r Anthem Genedlaethol' gyda'r cyfansoddwr Robat Arwyn ym mhabell Maes D / 'Learn the Welsh Anthem' with celebrated composer and musician Robat Arwyn

Yn y Babell Lên heddiw, roedd sesiwn i ddathlu cylchgrawn Golwg yn 25 oed gyda Dylan Iorwerth, Alun Wyn Bevan, Mari Jones-Williams ac Angharad Mair / A discussion panel in the literary tent to note 25 years of publishing the Welsh magazine, Golwg

Paulinus Barnes a Damien Jones o Gôr Meibion Rhosllannerchrugog oedd yn cystadlu yn y Pafiliwn / Paulinus Barnes and Damien Jones from The Rhos Male Voice Choir

Côr Meibion Pen-y-Bont Fawr yng nghefn y llwyfan yn aros i berfformio / Pen-y-Bont Fawr male voice choir back stage waiting to perform

Llun cyntaf o aelodau o 'Release the Movement', sydd yn annog pobl ifanc i ymarfer corff / First photo of members of 'Release the Movement', who encourage young people to exercise

Yr ail lun! / The second photo!

Pwysigion y Pagoda! Wendy Lloyd Jones, Ysgrifennydd Pwyllgor Cyllid lleol yr Eisteddfod, ac Awel Jones, Arolygydd y Pagoda / The Eisteddfod can only happen thanks to the work of people such as Wendy Lloyd Jones and Awel Jones

Huw Foulkes a Steffan Jones o Côrdydd ar ôl ennill Côr yr Ŵyl / Huw Foulkes and Steffan Jones from Côrdydd choir after winning the coveted Choir of the Festival prize