Ymdrechion yn arwain at 'Brifwyl syfrdanol' yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr wedi canu clodydd, gan ddweud bod ymdrechion y bobl leol wedi arwain at ŵyl "syfrdanol".
Hon oedd yr Eisteddfod olaf i'r trefnydd Hywel Wyn Edwards wedi 20 mlynedd o wasanaeth.
Wedi'r glaw ddydd Llun fe dywynnodd yr haul am weddill yr wythnos wrth i filoedd ar filoedd dyrru i'r Maes ar gyfer y cystadlaethau, y cyngherddau, y stondinau a'r miri.
Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod Elfed Roberts fod hon yn ŵyl lwyddiannus tu hwnt.
'Hyfryd'
Roedd hon yn Eisteddfod wnaeth dorri tir newydd mewn mwy nac un ffordd, gyda teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas y Maes am y tro cyntaf ac Archdderwydd benywaidd yn arwain y seremonïau.
Dywedodd Christine James: "Mae wedi bod yn Eisteddfod hyfryd - mae popeth wedi gweithio'n hwylus, mae'r Maes mewn lle arbennig, y tywydd wedi bod yn garedig, a'r torfeydd wedi tyrru yma.
"Rwy'n dechrau dod yn fwy cyfarwydd nawr ag arwain y seremonïau ac rwy'n falch bod teilyngdod ar y cyfan wedi bod."
Daeth y glaw ddydd Llun ond roedd llawenydd yn y pafiliwn wrth i fardd poblogaidd gael y Goron.
"Roedd hi'n braf cael coroni Ifor ap Glyn gyda'i ail Goron. Rwy'n ei 'nabod e, braf cael anrhydeddu wyneb cyfarwydd," meddai'r Archdderwydd.
"Wedyn roedd dau wyneb llai cyfarwydd - ac roedd yn beth hyfryd cael anrhydeddu wynebau newydd."
'Dim problemau'
Roedd prif weithredwr yr Eisteddfod yn falch bod Sir Ddinbych wedi cael cyfle arall i ddangos ei thalentau i Gymru a'r byd.
Y tro diwethaf roedd Eisteddfod yn y sir yn 2001 roedd clwy' traed a'r genau yn taflu cysgod ar hyd a lled y wlad.
Ond doedd dim problemau o'r fath y tro yma a dywedodd Mr Roberts: "Mae wedi bod yn wythnos lwyddiannus i'r Eisteddfod yma yn Sir Ddinbych a'r Cyffiniau eleni.
"Mae popeth wedi gweithio'n hwylus ac mae'r croeso a'r cydweithrediad gan drigolion lleol a'r cyngor wedi bod yn arbennig iawn.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ystod y prosiect cymunedol yn ogystal ac yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
"Diolch i bawb ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn Sir Gâr y flwyddyn nesaf."
'Bore Sul'
Mae'r trefnydd yn rhoi'r gore iddi wedi 20 mlynedd yn y swydd.
"Yr hyn sy'n gas gen i mewn gwirionedd yw bore Sul.
"Yn wahanol i'r rhan fwyaf ohonoch chi, fydda i yn y pafiliwn ... y seddau wedi mynd, y rig goleuo hanner ffordd i lawr, y system sain wedi mynd, y llwyfan wedi cael ei glirio, y set wedi mynd a'r un peth sy'n sefyll ar ôl ydy'r organ.
"A mae hwnna'n gwneud rhyw anti-climax ofnadwy bob blwyddyn a, dweud y gwir, mae'n rhoi rhyw deimlad o siom neu rywbeth i mi, gan wneud i mi bron crïo.
"Efallai y bydd yn fwy 'leni ..."