Cefnogaeth cyn straen canlyniadau

  • Cyhoeddwyd
arholiadau
Disgrifiad o’r llun,

Bydd canlyniadau Safon Uwch yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau, a chanlyniadau TGAU wythnos yn ddiweddarach

Bydd miloedd o ddisgyblion ysgolion a cholegau Cymru yn cael gwybod canlyniadau'r arholiadau Safon Uwch ddydd Iau.

Dyma fydd y prif ganlyniadau cyntaf ers i Lywodraeth Cymru gadarnhau y byddan nhw'n cadw'r TGAU a Safon Uwch fel cymwysterau i ddisgyblion Cymru, ond bod hynny'n digwydd ochr yn ochr â'r Fagloriaeth Gymreig.

Mae'n gyfnod lle bydd llawer o ddisgyblion yn teimlo dan straen. Ddydd Llun dangosodd ymchwil gan Ymddiriedolaeth y Tywysog bod canlyniadau arholiadau yn gallu cael effaith ar bobl ifanc am weddill eu hoes.

O ystyried hynny mae Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i atgoffa pobl ifanc am linell gymorth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth emosiynol i bobl ifanc yn y cyfnod anodd hwn.

Mae Meic yn wasanaeth eirioli a chynghori ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

Ers iddo ddechrau cynnig gwasanaeth 24/7 yn Ionawr 2011, mae dros 17,000 o bobl ifanc wedi cysylltu â Meic, sy'n derbyn £850,000 y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru.

'Cyfrinachol'

Dywedodd y Gweinidog Cymunedau, Jeff Cuthbert: "Gall yr adeg hon o'r flwyddyn roi llawer o straen ar bobl ifanc wrth iddyn nhw aros am ganlyniadau arholiadau ac ystyried eu hopsiynau ar gyfer y cam nesaf yn eu bywydau.

"Rydym am wneud yn siŵr eu bod yn gwybod bod cefnogaeth ar gael, a bod modd trafod eu pryderon yn gyfrinachol, yn ddienw ac yn rhad ac am ddim, er mwyn helpu i ddatrys eu problemau.

"Mae Meic wedi dangos y gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac mae'n sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru'n cael eu clywed."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol