Disgyblion Bagloriaeth Cymru ddim yn llwyddo cystal yn y brifysgol
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o ddisgyblion sy'n astudio'r Fagloriaeth Gymreig yn ei chael hi'n haws cael lle mewn prifysgol, ond ddim yn cael canlyniadau cystal yn eu gradd, yn ôl gwaith ymchwil.
Mae'r adroddiad gan Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (Wiserd) yn canolbwyntio ar un agwedd benodol o'r Fagloriaeth, sef pa mor effeithiol yw'r cymhwyster wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch.
Daw'r astudiaeth i ddau brif gasgliad, sy'n gysylltiedig. Y cynta' yw bod yna dystiolaeth gref bod y Fagloriaeth Gymreig yn help mawr i fyfyrwyr gael mynediad i sefydliadau addysg uwch.
Y prif reswm dros hyn, yn ôl Wiserd, yw'r ffaith fod rhai prifysgolion yn ystyried bod rhan graidd y Fagloriaeth yn cyfateb i gymhwyster Safon Uwch.
Os yw myfyrwyr yn cwblhau'r Fagloriaeth Diploma Uwch yn llwyddiannus, maent yn derbyn 120 pwynt UCAS, sy'n cyfateb i radd A mewn Safon Uwch.
Canlyniadau
Ond mae'r astudiaeth hefyd yn cyfeirio at dystiolaeth sy'n awgrymu fod myfyrwyr sydd â'r rhan graidd o'r Fagloriaeth Gymreig yn llai tebygol o gael canlyniadau "da" yn eu gradd o'i gymharu â myfyrwyr eraill ar ôl cyrraedd y brifysgol.
Dywedodd Mirain Rhys, ar ran Wiserd: "Fe wnaethon ni ddarganfod fod cael y cymhwyster yn beth ofnadwy o bositif.
"Roedd gan unigolion oedd yn mynychu prifysgol efo'r Fagloriaeth fwy o gyfle i gael lle yn y brifysgol.
"Roedd y canlyniadau hefyd yn dangos bod y math o radd roedd rhywun yn ei gael wedi gostwng dipyn bach o'i gymharu ag unigolion oedd ddim hefo'r cymhwyster - ond dim ond gwahaniaeth bach iawn oedd hwnnw.
"Dydy o ddim yn achos pryder mawr - mae' na gymaint o ffactorau pam fod unigolion yn gwneud yn dda mewn prifysgolion a pham eu bod nhw'n gwneud yn well mewn rhai meysydd."
Bu Rhianna Davies, o Bontrhydygroes, yn astudio ar gyfer y Fagloriaeth cyn mynd i'r brifysgol yn Birmingham i astudio meddygaeth, a dywedodd:
"Gan fy mod yn gwybod cyn mynd i'r brifysgol bod e ddim yn mynd i helpu fi, o'n i'n becso bod lot o waith a bod e ddim yn mynd i fod o fudd i mi o gwbl.
"O'n i ddim chwaith yn siŵr am y sgiliau oedd y Fagloriaeth yn rhoi i chi - o'n i ddim yn siŵr oedan nhw'n mynd i'n helpu i o gwbl a fi ddim yn siŵr bod nhw rili wedi rhoi lot i fi fel cymeriad cyn mynd i'r brifysgol."
'Mwy cyflawn'
Mae'r Fagloriaeth wedi'i rhannu'n ddwy ran - y rhan graidd a dewis o opsiynau, sy'n rhan o bynciau neu gymwysterau'r disgybl.
Cafodd y cymhwyster ei lansio yn 2002, gyda'r nod o gynnig profiad addysgol mwy cyflawn i ddisgyblion 14-19 oed trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau fyddai sefydliadau addysg uwch a chyflogwyr yn dymuno iddynt gael wedi gadael yr ysgol.
Mae'r pwyslais ar ddysgu trwy wneud, gyda'r un gwerth yn cael ei roi i gymwysterau galwedigaethol yn ogystal ag academaidd.
Roedd nifer o undebau athrawon wedi codi pryderon am werth y cymhwyster.
Ond daeth adolygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai'r llynedd i'r casgliad ei fod yn gwneud "cyfraniad pwysig i addysg dros 73,000 o fyfyrwyr yng Nghymru", ac y dylai gael ei gynnig i ddisgyblion rhwng 14-19 oed ar draws Cymru.
Mae'r cymhwyster yn cael ei wobrwyo gan gorff arholi CBAC ar hyn o bryd, a gofnododd fod cyfanswm o 8,259 o ymgeiswyr wedi cael Diploma Uwch y Fagloriaeth fis Awst y llynedd.
Mewn ymateb i'r gwaith ymchwil, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r gwaith ymchwil yma i helpu i ddatblygu'r Fagloriaeth Gymreig fel cymhwyster. Roedd ein hadolygiad annibynnol wedi cyffwrdd â nifer o gasgliadau Wiserd, ac rydym yn gweithredu i gyflwyno argymhellion yr adolygiad mewn perthynas â'r Fagloriaeth Gymreig.
"O ganlyniad, rydym yn gweithio tuag at gael Bagloriaeth Gymreig fwy trwyadl o fis Medi 2015. Bydd hyn yn rhoi mwy o syniad i sefydliadau addysg uwch o allu myfyrwyr y Fagloriaeth Gymreig ac yn helpu prifysgolion i wneud cynigion i fyfyrwyr posib."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd23 Awst 2012