Problemau trydan yn effeithio parc antur Oakwood
- Cyhoeddwyd
Mae parc antur wedi ymddiheuro wedi i broblemau trydan achosi trafferthion ar y safle.
Chafodd ymwelwyr ddim mynediad i sawl reid ym mharc Oakwood yn Sir Benfro am gyfnod yn dilyn yr anhawster.
Dyma'r ail waith o fewn wythnos i'r trydan beidio gweithio yn iawn ac mae nifer o bobl wedi cwyno bod eu diwrnod yno wedi ei ddifetha.
Dywedodd Oakwood, sydd yn denu miloedd yn ddyddiol bod y broblem wedi effeithio un ardal o'r parc am ryw awr yn ystod y prynhawn ac y bydd ar agor fel arfer dros y penwythnos.
Yn ôl Hayley Cullen, a oedd wedi dod i'r parc gyda 70 o bobl o Abertawe roedd gweithwyr yno wedi eu cynghori i fynd adref achos y nam ar y trydan.
Roedden nhw fel grŵp wedi talu £2,000 am docynnau meddai ac roedden nhw eisiau i'w ffurflenni ad-dalu gael eu llofnodi cyn eu bod yn gadael.
Reid Speed
Ond mae llefarydd Oakwood yn dweud nad oedden nhw wedi bod yn cynghori pobl i fynd adref a'i bod yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Wyth niwrnod yn ôl fe ddaeth cert sglefrio Speed i stop gyda nifer o bobl yn dal ar y reid oherwydd problemau trydan.
Roedd y parc yn mynnu bod y reid yn hollol saff ac fe gymerodd hi ryw 20 munud i'r digwyddiad gael ei ddatrys.