Byrddau iechyd yn canslo 13,000 o lawdriniaethau ers 2010

  • Cyhoeddwyd

Mae mwy na 13,000 o lawdriniaethau wedi cael eu canslo yn ystod y tair blynedd ddiwethaf oherwydd prinder gwelyau a staff.

Bu cynnydd o 72% yn nifer y llawdriniaethau a ganslwyd oherwydd prinder gwelyau ers Ebrill 2010.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ysbytai yn wynebu cyfnodau pan mae galw'n uwch yn ystod y gaeaf.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi dweud mai diffyg buddsoddi ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd sydd ar fai.

'Ffigyrau brawychus'

Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi wedi papur newydd y Western Mail o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o dorri cyllid i'r Gwasanaeth Iechyd mewn termau real, gan nad yw'r arian wedi bod yn codi ar yr un raddfa â chwyddiant.

Dywedodd eu llefarydd iechyd Darren Millar: "Mae'r ffigyrau brawychus hyn yn dangos beth yw graddfa canslo llawdriniaethau o fewn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

"Mae canslo llawdriniaethau hirddisgwyliedig nid yn unig yn gwastraffu miliynau o bunnoedd bob blwyddyn ond hefyd yn achosi gofid anferth i gleifion bregus ac yn gallu cael effaith negyddol ar eu triniaeth tymor hir ..."

'Pwysau digynsail'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i leihau nifer y llawdriniaethau sy'n cael eu canslo yng Nghymru.

"Bydd yna amseroedd pan fydd rhaid i rai gael eu canslo oherwydd rhesymau clinigol neu oherwydd dewis y claf.

"Ond yn ystod misoedd y gaeaf roedd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru'n wynebu pwysau gofal oedd heb eu trefnu ac yn ddigynsail, ac fe effeithiodd hynny ar y cynlluniau gofal oedd wedi eu trefnu.

"Mae nifer fawr o lawdriniaethau yn cael eu cynnal ledled Cymru bob blwyddyn ac o'r rhain mae cyfradd uchel o'r rhain yn cael ei chanslo gan y cleifion eu hunain.

"Weithiau bydd rhaid i ysbyty ganslo llawdriniaeth am resymau proffesiynol clinigol y mae modd eu cyfiawnhau."