'Trin mwy o gleifion nag erioed'
- Cyhoeddwyd
Mae adrannau brys ar draws y wlad yn wynebu cynnydd enfawr yn y galw, gyda rhai ysbytai yn trin mwy o gleifion nag erioed o'r blaen.
Dyna ddywed Llywodraeth Cymru, sy'n annog y cyhoedd i feddwl yn ofalus cyn deialu 999.
Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur i adrannau achosion brys, ond yn ystod y dyddiau diwethaf mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y galw wedi cynyddu'n aruthrol.
Ddydd Llun roedd dros 300 o gleifion yn cael eu gweld yn yr adran frys yn Ysbyty Treforys ger Abertawe, ac roedd galw i fyny tua 25% yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, gyda llawer o'r achosion angen gofal arbenigol.
Mae ambiwlansys hefyd wedi bod yn ciwio'r tu allan i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod rhai llawdriniaethau wedi cael eu gohirio.
Mae'r cynnydd sydyn yn y galw'r gaeaf hwn yn dilyn cyfnod anarferol o brysur ar gyfer adrannau brys yr haf diwethaf.
Meddygon teulu
Mae cleifion â salwch cyffredin neu fân anafiadau yn cael eu hannog i ymweld â'u meddyg teulu neu fferyllfa yn y lle cyntaf.
Dywedodd Mark Brandreth, cyfarwyddwr cynllunio a gweithrediadau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod teithiau ambiwlansys i ysbytai yng Nghymru yn 22% yn uwch na'r disgwyl am yr amser hwn o'r flwyddyn.
"Rydym wedi cymryd camau brys gan gynnwys gohirio rhai llawdriniaethau oedd wedi eu trefnu i alluogi adnoddau clinigol i gefnogi'r galw yn yr adran achosion brys.
"Rydym yn cydweithio gyda'n partneriaid i sicrhau nad oes oedi o ran cleifion yn dod allan o'r ysbyty a chael gofal mwy addas."
Teirgwaith yn fwy o alwadau brys
Yn ôl Marcus Longley, cyfarwyddwr y Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Morgannwg, mae yna gynnydd mewn galw o bryd i'w gilydd heb reswm amlwg dros hynny, ac mae hyn yn rhoi straen ar y system.
Mae yna duedd tymor hir hefyd, meddai, gyda theirgwaith yn fwy o alwadau brys y dyddiau hyn nac yr oedd ugain mlynedd yn ôl.
Yn ôl yr Athro Longley, mae'r gwasanaeth iechyd yn ei chael hi'n anodd gweithredu yn ddigon cyflym i geisio sicrhau nad oes angen i rai pobl, er enghraifft rhai gyda chyflyrau tymor hir, gael mynediad brys i ysbytai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2012